Mewn digwyddiad glanhau traeth yn Llandudno heddiw, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac yn unol â chanllawiau’r Coronafeirws, canmolodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – ymrwymiad y gymuned i sicrhau cynefinoedd arfordirol lleol glân, drwy gael gwared ar “bla cyfoes plastig untro.”
Wrth agor y digwyddiad, soniodd Janet – Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid – am ei hymgyrch i wahardd plastigau untro a chyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru-gyfan. Ymhlith y rhai a fynychodd y digwyddiad roedd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mr Mark Isherwood AS; Clare Trotman o’r Gymdeithas Cadwraeth Forol; myfyrwyr o goleg St David’s College; a swyddogion o’r Lane End Group.
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Mae’n fendith bod Aberconwy yn gartref i rai o arfordiroedd gorau’r Deyrnas Unedig, a’n bod ni’n gallu croesawu’r bywyd gwyllt a’r llystyfiant sy’n dod yn sgil hynny. Ond yn sgil hynny hefyd, daw cyfrifoldeb mawr i ofalu am ein cynefinoedd arfordirol a’u cynnal ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
“Gyda’r fath bwyslais ar yr argyfwng hinsawdd, rwy’n aml yn pryderu bod natur yn ail pell wrth lunio polisi. Gyda chymaint o wirfoddolwyr o blith rhanddeiliaid amrywiol wedi dod i lanhau’r traeth heddiw, mae’n amlwg bod y cyhoedd yn mynnu cymryd camau brys i fynd i’r afael â phla cyfoes plastig untro.
“Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn datgan yn glir bod rhwng 8 a 13 miliwn tunnell o blastig yn mynd i mewn i’n cefnforoedd bob blwyddyn. Yn wir, dros ddarn 100 metr o draeth, codwyd cyfartaledd o 92.4 eitem o blastig yn ystod y Great British Beach Clean yn 2020, y mwyafrif ohonyn nhw’n wastraff cyhoeddus.
“Mae’r gwirfoddolwyr yma heddiw yn gytûn bod angen polisi rhagweithiol i fynd i’r afael â hyn, a dyna pam rwyf ers tro wedi bod o blaid mabwysiadu dull deublyg o waharddiad amodol ar rai deunyddiau untro a chyflwyno cynllun dychwelyd ernes.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda mynychwyr yr ymgyrch traeth glân.