Yn dilyn pryder cynyddol am orchymyn dileu gan Network Rail a brwydr hir gan ymgyrchwyr lleol i ailagor y llwybr, mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn i’r awdurdod wrthod y cais i gau’r llwybr. Yn 2019, penderfynodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru fod hawl tramwy cyhoeddus o hyd wrth y groesfan reilffordd yn Warren Drive/Ffordd Glan y Môr. Wrth sôn am y gorchymyn dileu newydd, dywedodd Janet:
“Fel yr amlinellais yn fy llythyr at yr awdurdod lleol, mae’r cais hwn gan Network Rail yn ergyd sylweddol i’r gymuned wrth i ni weithio’n ddiflino i weld y map swyddogol ar gyfer yr ardal yn cael ei ddiwygio i gynnwys llwybr troed cyhoeddus mewn man lle profwyd bod hawl tramwy cyhoeddus ar y groesfan, a bod yr hawl hwnnw’n parhau.
“Bydd trigolion yn cofio ein brwydr galed a chydweithredol i ailagor y llwybr hwn, ar ôl i mi ddadlau o blaid y llwybr yn yr ymchwiliad. Mae’n parhau’n enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith nad wyf am ei gweld yn cael ei gwastraffu heb wneud popeth posibl i sicrhau bod y groesfan yn ddiogel.
“Mae’r groesfan hon wedi cael ei defnyddio ers canrifoedd. Er fy mod yn gwerthfawrogi dyletswyddau statudol Network Rail i gynnal gweithrediad y rheilffordd yn ddiogel ac effeithlon, ac yn rhannu eu hawydd i ddiogelu’r cyhoedd, mae’n rhaid i mi nodi nad wyf yn ymwybodol o un farwolaeth pan oedd y groesfan hon ar agor.
“Yn hytrach na gorfodi cau’r groesfan yn y tymor hir, rwy’n rhannu’r gred leol y dylai Network Rail ddod o hyd i ateb arloesol yn lle hynny, fel pont neu danlwybr. Gan fod newid hinsawdd yn parhau i fod yn un o heriau mwyaf ein hoes, ni ddylem fod yn cau’r llwybrau hynny sy’n hwyluso teithio llesol lleol. Dylai’r sector rheilffyrdd gofio bod y llwybr yno ymhell cyn trenau.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS wrth groesfan Deganwy.