Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Allwn ni ddim “aros i ddamweiniau ddigwydd” cyn cyflwyno newidiadau i derfynau cyflymder gwledig

  • Tweet
Wednesday, 7 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar ffyrdd i alw am adolygiad o derfynau cyflymder gwledig er mwyn sicrhau “newid o’r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol.” Mynegodd Janet bryderon hefyd ynghylch cynllunio gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a’r A470 drwy Ddyffryn Conwy wrth i’r ardal wynebu tymor twristiaeth yr haf.

Wrth gynnig sylwadau ar ôl y ddadl, dywedodd Janet: 

“Yn anffodus, nid peth newydd yw problem amodau ffyrdd gwael a thanfuddsoddi yng Ngogledd Cymru. Drwy gydol y Pumed Senedd, ymgyrchais yn ddi-baid i geisio gwella ffyrdd gwledig lleol a lleihau terfynau cyflymder o 60mya i ddiogelu ein cymunedau gwledig. 

“Ond er i’r Prif Weinidog ddweud wrthyf y byddai’r canllawiau’n cael eu hadolygu o Haf 2020 ymlaen, nid yw hyn wedi digwydd. Fel y soniais yn glir yn fy araith heddiw, mae dal angen newid o’r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol. 

“A dweud y gwir, mae’n amhosibl bellach i ni aros i ddamweiniau ddigwydd cyn cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder. Felly, byddaf yn dal ati i alw am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o derfynau cyflymder o’r fath. 

“Rwyf hefyd wedi galw am astudio cynllunio gwaith ffordd, gan fod gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a’r A470 drwy Ddyffryn Conwy yn achosi cryn darfu wrth i ni wynebu tymor twristiaeth yr haf. Ar ôl 15 mis o her, dyma’r peth olaf sydd ei angen ar ein busnesau.” 

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree