Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Hwb 4G i drigolion a busnesau ar hyd a lled Aberconwy

  • Tweet
Tuesday, 29 June, 2021
  • Local News

Bydd trigolion y Gymru wledig yn gweld gwelliant aruthrol i’w signal ffôn symudol diolch i raglen cysylltedd digidol gwerth biliwn o bunnoedd - y gyntaf o'i math yn y byd. Wrth groesawu'r cyhoeddiad, mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi pwysleisio ei hymroddiad i gael eglurder ynghylch pryd y bydd problemau diffyg signal lleol yn cael eu datrys.

Cytunwyd ar y Shared Rural Network gyda chwmnïau rhwydwaith symudol mwyaf Prydain, lle bydd cwmnïau'n rhannu eu mastiau i roi hwb i signalau symudol pobl. Cymru fydd yn gweld y cynnydd uchaf nesaf – gyda signalau pob un o'r pedwar cwmni rhwydwaith ar draws ei hardaloedd daearyddol yn cynyddu mwy na thraean, o 60% i 80%. Dros y misoedd diwethaf, mae Janet wedi cysylltu â swyddogion British Telecom a Llywodraeth y DU, gan sicrhau eglurder y byddant yn ychwanegu dau safle 4G newydd i'r gorllewin o Ysbyty Ifan.  

Wrth sôn am y rhwydwaith, dywedodd Janet:  

“Bydd ymrwymiad darpariaeth symudol heddiw, i ddarparu signal symudol 4G dibynadwy i lawer o'n cymunedau gwledig, yn gwella bywydau cannoedd o drigolion ledled etholaeth Aberconwy, gan sicrhau'r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio a chadw mewn cysylltiad â'n hanwyliaid.

“Unwaith eto, mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu cryfder cydweithredu. Gyda Llywodraeth y DU a chwmnïau rhwydwaith symudol yn gweithio i gael gwared ar fannau heb signal, mae'n gam cadarnhaol y byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i'w efelychu trwy ei gwaith cysylltedd digidol ei hun.

“Fel y gŵyr llawer o drigolion, mae problem diffyg signal yn fater yr wyf wedi ymgyrchu yn ei gylch ers blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, roeddwn i'n falch o sicrhau eglurder y bydd dau safle 4G newydd yn cael eu hychwanegu i'r gorllewin o Ysbyty Ifan. Byddaf yn deisebu yn awr am eglurder ynghylch amserlenni ar gyfer gweithredu.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Bydd y Shared Rural Network (SRN), a gynigiwyd gan weinidogion fis Mawrth y llynedd, yn gweld EE, O2, Three a Vodafone yn rhannu rhwydwaith o fastiau ffôn newydd a phresennol. Bydd yn golygu cynnwys 280,000 o adeiladau ychwanegol a 16,000 km ychwanegol o ffyrdd y DU o fewn cyrraedd signal 4G – gan gynyddu cyfanswm y ddarpariaeth 4G ddaearyddol i 95% o'r DU erbyn diwedd 2025. 
  • Yn yr un modd, dan raglen Gwasanaethau Estynedig (EAS) y Swyddfa Gartref, mae pedwar safle yn etholaeth Aberconwy, gan gynnwys mastiau y credir y gallent wasanaethu Ysbyty Ifan a'r cylch.
  • Mae map o'r gwelliannau 4G arfaethedig ynghlwm.

Llun: Map SRN gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU

 

You may also be interested in

J

Improved Mobile Capacity in Penmachno delights Local MS

Wednesday, 28 January, 2026
Residents, businesses and farmers in Penmachno are set to benefit from improved mobile phone connectivity following years of campaigning and close working with BT. The rural community has long faced challenges with poor mobile coverage, impacting day-to-day life.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree