Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Siom gyda safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd cynnal a chadw meysydd chwarae

  • Tweet
Tuesday, 29 June, 2021
  • Local News

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi mynegi siom ynghylch ateb Llywodraeth Cymru i'w hymgyrch dros wella cyfleoedd chwarae i blant yng Nghymru.  

Mewn ymateb i gais ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried creu dyletswydd statudol i awdurdodau lleol ddarparu a chynnal a chadw meysydd chwarae i blant, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:  

“Rydym yn parhau i adolygu'r gofynion statudol presennol, ac nid ydym yn credu bod angen dyletswydd benodol mewn perthynas â meysydd chwarae ar hyn o bryd.   

Wrth siarad am yr ymateb, dywedodd Janet:  

“Ar ôl gweithio yn fy etholaeth i adfer a chynnal parciau chwarae lleol, gan gynnwys cydweithio â'r gymuned yn Llanrwst, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut y gellid gwella'r ddarpariaeth drwy gyflwyno dyletswydd statudol benodol i awdurdodau lleol gynnal a chadw'r cyfleusterau hyn.

“Maen nhw'n gyfleusterau hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein plant, gan helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf yn ddinasyddion cyflawn a hapus. Maen nhw o fudd i rieni hefyd, fel man cyfarfod i rannu syniadau a gwneud trefniadau cymdeithasol.  

“Gan gydnabod bod pandemig y Coronafeirws wedi rhoi straen aruthrol ar gyllidebau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol ledled Cymru, byddai cyflwyno dyletswydd statudol o'r fath yn awr yn sicrhau y gallwn osgoi gostyngiad sylweddol mewn gwasanaethau chwarae. Mae'n fater o edrych ar bethau trwy lygaid hirdymor.

“Yn yr un modd, drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn well, byddai rheoliadau Cymru yn cydnabod bod sawl math gwahanol o anabledd neu anghenion arbennig. Byddai’n creu dyletswydd ar dimau Datblygu Chwarae hefyd i weithio'n agos gyda Gwasanaethau Anabledd neu weithgorau awdurdod sy'n asesu'r gwaith o ailgynllunio mannau chwarae newydd a phresennol i sicrhau hygyrchedd."

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • WQ82630: A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i greu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu a chynnal meysydd chwarae plant?
  • Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: O dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau digon o gyfleoedd chwarae yn ei ardal i blant gan roi sylw i'r asesiad digonolrwydd tair blynedd y mae'n rhaid iddo ei gynnal. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi gofyniad clir hefyd y dylid darparu mannau hamdden a mannau chwarae. Rydym yn adolygu'r gofynion statudol presennol yn gyson, ac nid ydym yn credu bod angen dyletswydd benodol mewn perthynas â meysydd chwarae ar hyn o bryd.  Mae eu darpariaeth a'r gwaith o’u cynnal a’u cadw’n rhan o'r ddyletswydd ehangach ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau digon o gyfleoedd chwarae. 

You may also be interested in

J

Improved Mobile Capacity in Penmachno delights Local MS

Wednesday, 28 January, 2026
Residents, businesses and farmers in Penmachno are set to benefit from improved mobile phone connectivity following years of campaigning and close working with BT. The rural community has long faced challenges with poor mobile coverage, impacting day-to-day life.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree