Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn siarad am y dybryd angen am Fil Hawliau Pobl Hŷn

  • Tweet
Wednesday, 30 June, 2021
  • Local News

Mae profiadau pobl hŷn yn ystod pandemig Covid-19 wedi cryfhau'r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith, meddai’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy yn y Senedd heddiw. Fel ymgyrchydd hirdymor dros gyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, mae Janet Finch-Saunders AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar fomentwm y gefnogaeth a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf drwy gyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.  

Daeth ymyriad diweddaraf Janet fel rhan o ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod, dan arweiniad yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd Gareth Davies AS. Erbyn 2035, bydd Cymru'n brin o 7,000 o welyau gofal nyrsio a 15,000 o unedau tai i bobl hŷn. Hefyd, amcangyfrifir y gallai tua 140,000 o bobl hŷn yng Nghymru fod yn dioddef rhyw fath o gamdriniaeth. 

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Janet: 

“Mae'n amlwg o'r adroddiad diweddar, Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy'n Profi Camdriniaeth yng Nghymru, fod angen cymryd mwy o gamau. Yn wir, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu strategaethau a pholisïau perthnasol i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael ag anghenion pobl hŷn. 

“Yr hyn sy’n bwysig i etholaeth fel Aberconwy yw bod yr adroddiad yn egluro hefyd yr angen i lunwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau ystyried sut y gellir diwallu anghenion pobl hŷn sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.  

“Gallwn helpu drwy greu'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i Egwyddor y Cenhedloedd Unedig y dylai pobl allu byw mewn amgylchedd diogel. Dychmygwch y gwahaniaeth pe bai'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau roi sylw dyledus i'r angen i bobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd a thai digonol.  

“Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn ddefnyddiol ond dydyn nhw ddim yn golygu llawer i bobl hŷn yng Nghymru am nad oes ganddynt berchnogaeth arnynt. Dyna pam rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn, a gyflwynwyd gan Gareth Davies AS, fel bod pobl fwyaf agored i niwed cymdeithas yn cael eu trin â'r urddas a'r parch maen nhw'n ei haeddu."

DIWEDD 

Llun: gan Micheile Henderson ar Unsplash

You may also be interested in

J

Improved Mobile Capacity in Penmachno delights Local MS

Wednesday, 28 January, 2026
Residents, businesses and farmers in Penmachno are set to benefit from improved mobile phone connectivity following years of campaigning and close working with BT. The rural community has long faced challenges with poor mobile coverage, impacting day-to-day life.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree