Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ethol Janet Finch-Saunders AS ar Gomisiwn y Senedd

  • Tweet
Wednesday, 23 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (23 Mehefin), cafodd Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy – ei hethol yn Gomisiynydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer y Chweched Senedd, yn dilyn pleidlais gan yr holl Aelodau. Mae’n ofyniad cyfreithiol ar y Senedd i benodi Comisiynwyr sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen ar y Senedd i gyflawni eu rolau yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Gan roi sylwadau ar ei henwebiad, dywedodd Janet:

“Rwy’n falch iawn o gael fy ethol gan fy nghydweithwyr yn y Senedd, o bob plaid, i fod yn Gomisiynydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer y Chweched Senedd. Mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith hollbwysig, gan sicrhau bod y sefydliad democrataidd hanfodol hwn yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn effeithlon.

“Mae heriau anhygoel y flwyddyn ddiwethaf wedi hoelio ein sylw o’r newydd ar waith Comisiwn y Senedd, ac rwy’n edrych ymlaen at sicrhau mwy fyth o dryloywder. Byddaf hefyd yn mynd ati i sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario mewn ffordd briodol a darbodus, yn unol â disgwyliadau pobl Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen nawr at gychwyn ar y gwaith, yn enwedig gan fod y Senedd yn dechrau ar y broses o groesawu ymweliadau gan y cyhoedd unwaith eto ar ôl cyfnod hirfaith o gau ei drysau yn sgil y pandemig Coronafeirws.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae’r Comisiwn yn cael ei gadeirio gan y Llywydd, ac yn cynnwys Aelodau sydd wedi’u hethol gan y Senedd. Mae gan bob aelod o’r Comisiwn bortffolio penodol o gyfrifoldebau ar gyfer y Chweched Senedd.

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree