Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Troi olwynion strategaeth fysiau Llywodraeth Cymru’ drwy ymgysylltu â’r gymuned

  • Tweet
Wednesday, 23 June, 2021
  • Local News

Wrth siarad mewn dadl drawsbleidiol ar wasanaethau bysiau heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n fwy pwrpasol â’r gymuned leol i ddatblygu eu strategaeth Llwybr Newydd i ddiwallu anghenion cludiant gwledig.

Fel Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, mae hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi “ymgyrch werdd drwy helpu gweithredwyr i fuddsoddi mewn bysiau trydan ac uwchraddio’u seilwaith.” Daw ei hymyrraeth ar adeg lle mae'r defnydd o wasanaethau o’r fath yn gostwng. Awgrymodd dadansoddiad yn 2018 bod y pellter a deithir gan wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng o 20% mewn 10 mlynedd. Yn wir, Cymru welodd y gostyngiad canrannol mwyaf mewn milltiroedd bysiau rhwng 2006-2007 a 2016-2017 o gymharu â gwledydd eraill y DU.

Wrth siarad am ei chyfraniad, dywedodd Janet:

“Mae teithio ledled etholaeth Aberconwy yn enghraifft berffaith o sut y gellir moderneiddio gwasanaethau i fodloni galw ledled cymunedau gwledig. Mae gennym wasanaeth bws Fflecsi Dyffryn Conwy. Hefyd, mae Llew Jones International, yn Llanrwst, yn cymryd camau i ddarparu teithio glân, cynaliadwy a fforddiadwy.

“Ond er bod y cytundeb gwasanaethau bysiau £37.2 miliwn yn gam i’r cyfeiriad iawn, rwyf ar ben fy nigon bod consensws rhwng y pleidiau nawr ar yr angen i ymgysylltu’n bwrpasol â chymunedau ledled Cymru ar y strategaeth newydd ac ar lywio gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion cludiant.

“Fel yr eglurais heddiw, dylai strategaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru geisio cefnogi ymgyrch werdd drwy helpu gweithredwyr i fuddsoddi mewn bysiau trydan ac uwchraddio eu seilwaith. Mae’n amser i roi’r strategaeth ar waith, felly rwyf hefyd yn galw am sefydlu amserlenni ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau.

“Gallai cytundebau gwasanaeth bysiau, gyda’r telerau’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion lleol, fod o fudd i Ddyffryn Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri sy’n gweld cynnydd mewn ymwelwyr yn teithio mewn cerbydau preifat. Ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n bwrpasol â’r gymuned leol i sicrhau bod Llwybr Newydd yn paratoi’r ffordd.”

DIWEDD

Ffoto: gan Ant Rozetsky ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree