Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Lansio llinell gymorth 111 y GIG yn y Gogledd

  • Tweet
Wednesday, 23 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

O’r wythnos hon ymlaen, bydd cleifion ledled etholaeth Aberconwy yn gallu ffonio 111 i gael mynediad am ddim at ofal meddygol y tu allan i oriau brys a chymorth ac arweiniad iechyd ddydd a nos. Mae’n rhif hawdd i’w gofio ac am ddim o linellau tir a ffonau symudol a bydd yn helpu cleifion i gael y wybodaeth, yr arweiniad a’r driniaeth iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Mae’r gwasanaeth, a lansiwyd ddechrau’r wythnos, wedi cael croeso cynnes gan Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - sydd wedi bod yn ymgyrchu am fynediad cyfartal at y gwasanaeth. Mae GIG 111 Cymru yn cael ei staffio gan dîm mawr o nyrsys, meddygon a fferyllwyr, ynghyd â dwsinau o atebwyr galwadau newydd wedi’u hyfforddi.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Janet:

“Gydol y pandemig, ac yn sgil yr annog cyson i bobl ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn, derbyniais gwynion diri gan etholwyr dryslyd a oedd yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth GIG 111 dim ond i weld nad oedd y gwasanaeth cyngor meddygol i achosion nad oedden nhw’n rhai brys ar gael ar gyfer ardal y Gogledd.

“Dyna pam y gwnes i annog Gweinidog Iechyd Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at y cymorth meddygol hwn. Yn wir, roedd hi’n dipyn o sioc fod fy etholwyr wedi bod yn gorfod talu cyhyd am alwadau i Galw Iechyd Cymru i gael cyngor meddygol ar gyfer achosion nad oedden nhw’n rhai brys, o gymharu â mannau eraill.

“Rwyf wrth fy modd bod y gwasanaeth wedi’i lansio bellach gan fod llawer o fy mhreswylwyr mwyaf bregus yn awyddus iawn i ddefnyddio’r cynllun cymorth ffôn er mwyn ysgafnhau’r pwysau ar y rhif cyswllt mewn argyfwng. Byddaf bellach yn ceisio sicrhau mai dyma’r rhan gyntaf o don newydd o fuddsoddiad yn ein Bwrdd Iechyd er mwyn gallu dechrau mynd i’r afael â’r argyfwng rhestr aros yn y rhanbarth.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae’r gwasanaeth 111 yn cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o ganolfannau ledled Cymru, gan gynnwys canolfan fawr yn Llanelwy. Gellir cael cyngor meddygol ar wefan GIG 111 Cymru. 

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS  

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree