Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Siocledwr o Landudno yn ehangu busnes siocledi moethus

  • Tweet
Tuesday, 22 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Cam hynod ffodus i fyd gwneud siocled roddodd fywyd newydd i siop siocledi Maisie’s yn Llandudno, meddai Tim Winstanley wrth Janet Finch-Saunders AS ar ei hymweliad diweddar â’r siop. Cymerodd y teulu Winstanley yr awenau ym Maisie’s yn 2019 ac ar ôl cyfnod yn treialu diodydd swigod cartref, daeth ysbrydoliaeth fel afon o siocled dros y teulu wrth iddynt fentro i’r farchnad diodydd poeth arbennig dan label Pendragon Drinks.

Daeth yr ymweliad diogel o ran Covid ar ôl i Tim orfod trawsnewid y llawr gwaelod i gyd yn Llandudno Chocolate Experience yn safle cynhyrchu dros dro i weithio ar y nifer cynyddol o archebion dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda llawer o waith caled yn ddiweddar ar ôl derbyn archeb fawr iawn am drowyr siocled ar gyfer marchnad lletygarwch Sweden.

Mae’r gwaith wedi dechrau ar ehangu i eiddo cyfagos lle bydd y gwaith cynhyrchu yn cael ei wneud, gyda chymorth ei rieni, Karen a Richard. Wrth groesawu’r newyddion am yr ehangu, dywedodd Janet:

“Mae’r newyddion bod Tim yn gobeithio ehangu safle cynhyrchu’r busnes lleol a theuluol hwn, yn ogystal â dechrau creu peiriannau newydd i wneud gwahanol fathau o siocled, yn dangos ei ymroddiad a’i ddyfeisgarwch. Pob llwyddiant i’r teulu Winstanley!

“Trwy hybu elfen gynhyrchu eu busnes siocled sy’n tyfu, ac allforio’r cynhyrchion moethus Cymreig hyn i farchnadoedd fel Sweden, mae’r teulu Winstanley’n chwa o awyr iach yng nghanol hanesion trist am ein heconomi.

“Maen nhw’n un o drysorau Llandudno, gyda’u harlwy mor boblogaidd nes bod nifer o gwsmeriaid wedi crybwyll eu bod yn teithio i Landudno yn bennaf i ymweld â Maisie’s. Yn wir, mae pobl wedi dod o lefydd mor bell â Beverley, yn Swydd Efrog i brynu’r danteithion hyfryd hyn.”

Mae Maisie's Chocolate Shop yn gwerthu siocled detholiad amrywiol o siocledi moethus a gynhyrchir yn fewnol a rhai allanol sydd ar gael i’w prynu ar-lein. Cyn y pandemig, gallai pobl ymweld a blasu samplau wrth gerdded o gwmpas yr amgueddfa. Mae The Llandudno Chocolate Experince yn daith dywysedig ystafell dywyll drwy hanes siocled dros 5000 o flynyddoedd gyda phethau anghyffredin oedd yn gysylltiedig â gwneud siocled y mae’r teulu wedi cael gafael arnynt o bedwar ban byd, gan gynnwys bar o siocled sydd wedi bod gyda milwyr yn Rhyfeloedd Boer yn Ne Affrica.

Roedd y daith yn rhan o daith fusnes ddiweddaraf Janet o gwmpas Llandudno wrth iddi geisio cefnogi a dathlu doniau entrepreneuraidd lleol wrth i’r rhanbarth ddod dros y pandemig Covid-19.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae Maisie's Chocolate Shop wedi’i lleoli yn 25 Stryd Vaughan, Llandudno LL30 1AH. Gellir archebu cynhyrchion ar-lein yn www.maisies.co. Mae The Llandudno Chocolate Experience dros y ffordd yn John Street Cocoa Works, Llandudno LL30 2AB. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llandudnochocolateexperience.co.uk 

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Tim a Karen Winstanley. 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree