Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

7,309 o safleoedd ledled Aberconwy i gael cysylltiad ffeibr llawn dan gynlluniau Openreach

  • Tweet
Wednesday, 2 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion y bydd 7,309 o safleoedd ar hyd a lled yr etholaeth yn cael eu cysylltu â band eang ffeibr llawn gan Openreach. Gall band eang ffeibr ddarparu cyflymder lawrlwytho o 1 Gbps, sy'n golygu ei fod hyd at 10 gwaith yn gyflymach na chysylltiad band eang y cartref cyfartalog.

Mae amseroedd penodol y cyflwyno yn yr arfaeth ar hyn o bryd, er bod y ffigur hwn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol, gwaith adeiladu arfaethedig o raglenni Openreach eraill, Partneriaethau Ffibr Cymunedol, neu raglenni a ariennir. Bydd y cam hwn yn cyfrannu hefyd at greu cyfanswm o 7,000 o swyddi newydd ar draws Openreach a'u cadwyn gyflenwi ehangach.

Wrth gyfeirio at y newyddion, meddai Janet:

“Mae cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy wedi dod yn anghenraid bob dydd, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wrth i weithio gartref ddod yn duedd sydd ymhell o fod yn pylu, rydw i'n croesawu'r newyddion bod Openreach yn cynyddu'r ymdrech i gysylltu 7,309 yn rhagor o safleoedd ledled yr etholaeth.

“Bydd y cyhoeddiad hwn yn ein hatgoffa o'r ffaith syfrdanol bod 66% o ymatebwyr arolwg diweddar wedi dweud eu bod wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Mae'r gagendor digidol yn parhau i gael effaith barhaol ar lwyddiant a lles ein cymunedau gwledig, felly byddaf yn gwylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen hon yn ofalus iawn.

“Fel y mae swyddogion y diwydiant wedi datgan yn glir yn ein trafodaethau parhaus ar y mater, mae darparu cysylltedd wedi'i uwchraddio i leoliadau anodd eu cyrraedd yn aml yn her fawr o ran y beirianneg ac mae'n eithriadol o gostus. Er gwaethaf hyn, rydw i'n parhau i fod yn ymrwymedig i ganfod ateb sy'n sicrhau mynediad cyfartal i'n cymunedau gwledig a threfol.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yn ddiweddar, gofynnodd Janet i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gadarnhau pa gamau oedd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gan Gymru fynediad at rwydwaith ffibr llawn, cynhwysfawr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y datganiad i'r wasg a geir yma.
  • Mae'r datganiad i'r wasg llawn a gafwyd gan Openreach ar gael yma. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Eurig Thomas yn nhîm cysylltiadau cyhoeddus Openreach ar [email protected].

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree