Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Gall Cymru "arwain y byd" ar lygredd arfordirol sy'n un o felltithion yr oes fodern

  • Tweet
Tuesday, 8 June, 2021
  • Senedd News
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS a'i thîm yn ystod y Sesiwn Casglu Sbwriel ym mis Medi 2020

Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, wedi tynnu sylw at Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd 2021 heddiw, drwy danlinellu'r angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar lygredd plastig er mwyn adfer iechyd ein harfordir. Mae Aelod Aberconwy, a oedd yn eiriolwr Llamhidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru yn y Pumed Senedd, wedi datgan yn glir bod y newid yn angenrheidiol er mwyn diogelu cynefinoedd morol a'r rhywogaethau sy'n byw yma.

Bywyd a Bywoliaeth yw thema Diwrnod Cefnforoedd y Byd 2021. Mae'r fenter yn gyfle i godi ymwybyddiaeth fyd-eang o'r manteision y mae pobl yn eu cael o'r cefnfor, yn ogystal â'n dyletswydd unigol a chyfunol i ddefnyddio ei adnoddau'n gynaliadwy. Mae'n gyfle hefyd i ddathlu a gwerthfawrogi’r hyn y mae'r cefnfor yn ei ddarparu, o ocsigen i fwyd.

Wrth dynnu sylw at Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd 2021, meddai Janet:

“Yr hyn sy'n destun pryder a siom yw'r ffaith bod rhwng 8 a 13 miliwn tunnell o blastig yn dal i gyrraedd ein cefnfor bob blwyddyn. Yn wir, yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae llygredd plastig yn parhau i fod yn un o'r pum prif elfen sy'n sbarduno'r argyfwng bioamrywiaeth presennol, gyda 40% o famaliaid morol mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.

“Yn y Pumed Senedd, roeddwn i'n falch iawn o roi cynigion gerbron ar gyfer Cynllun Ernes Diodydd Cymru Gyfan a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol. Defnyddiais fy rôl i gynnig gwaharddiad ar y rhan fwyaf o blastig untro hefyd, gan gynnwys cadachau gwlyb plastig sy’n cael eu rhoi i lawr y toiled lawer yn rhy aml.

“Wrth i'r sesiwn newydd hon o Senedd Cymru ddechrau gweithredu, rydw i'n defnyddio Diwrnod Cefnforoedd y Byd 2021 i bwyso ar Lywodraeth Cymru unwaith eto i gadw at ei hymrwymiad a chyflwyno newid parhaol. Mae'r cynigion hyn yn cael cefnogaeth eang iawn gan y cyhoedd, sydd bellach yn dymuno i Fae Caerdydd ddangos arweiniad yn hyn o beth.

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru oresgyn ei chamgymeriadau o wneud dim mwy nag ailadrodd yr un hen ymgynghoriadau, sydd ond yn cuddio eu diffyg gweithredu parhaus ar y mater hwn sy'n peri pryder. Edrychaf ymlaen at gyflwyno cynigion fel y gellir craffu arnyn nhw, er mwyn adfer iechyd ein cynefinoedd arfordirol.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cafodd Diwrnod Cefnforoedd, menter y Cenhedloedd Unedig, ei ddatgan gyntaf ym 1992 yn dilyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygu yn Rio de Janeiro, a adwaenir hefyd fel Uwchgynhadledd y Ddaear, a arweiniodd at dargedau pwysig mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd. Yn 2008, dynodwyd 8 Mehefin yn swyddogol fel Diwrnod Cefnforoedd y Byd, gyda thema wahanol bob blwyddyn.
  • Bydd yr Aelod yn cynnal digwyddiad glanhau'r traeth, sy'n cydymffurfio â gofynion Covid, ar draeth Llandudno ar 3 Gorffennaf 2021, gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, Mark Isherwood AS a myfyrwyr o Goleg Dewi Sant.

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS a'i thîm yn ystod y Sesiwn Casglu Sbwriel ym mis Medi 2020

You may also be interested in

J

MS Visits Glan Conwy Bridge Project

Tuesday, 10 March, 2026
Janet Finch-Saunders Member of the Senedd for Aberconwy recently visited the site of the new active travel route linking from RSPB in Glan Conwy and Llandudno Junction to see first-hand the progress being made on the project. The project has been in the works for over 20 years and once complete

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree