Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Wythnos Gofalwyr 2021: Adroddiad yn canfod nad yw Gofalwyr Cymru yn cael seibiannau rheolaidd

  • Tweet
Monday, 7 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn rhyddhau ymchwil i nodi Wythnos Gofalwyr 2021, a ganfu fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar allu gofalwyr i gael seibiannau, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru'r ddyletswydd ar y GIG yng Nghymru i nodi gofalwyr, gan sicrhau dull mwy systematig o ymdrin â seibiannau wrth symud ymlaen.

Yn anffodus, dywedodd un o bob tri gofalwr yng Nghymru eu bod yn defnyddio eu seibiannau i gwblhau tasgau ymarferol fel gwaith tŷ. Nawr, mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'r Aelod wedi gofyn:

“Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu a diweddaru'r ddyletswydd sydd ar y GIG yng Nghymru i gefnogi gofalwyr, er mwyn sicrhau dull mwy systematig o wella lles drwy fynediad at seibiannau”

Wrth siarad am y canfyddiadau, dywedodd Janet:

“Mae llawer o ofalwyr wedi bod ar alwad drwy'r dydd, bob dydd yn ystod y pandemig, gan aberthu eu hiechyd corfforol a meddyliol yn gwbl anhunanol i ofalu am anwyliaid. Dyw hwn ddim yn ddull cynaliadwy a rhaid i Fae Caerdydd gydnabod pryder cyffredinol pobl o ran sut gall gofal barhau heb fwy o gymorth.

“Gyda 45% o ymatebwyr Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n cael y seibiannau sydd eu hangen arnyn nhw, gan godi i 72% yn ystod y pandemig, mae'n amlwg bod y duedd hon, sy'n peri cryn bryder, wedi hen fwrw gwreiddiau ac yn parhau i fod yn broblem i'n gofalwyr di-dâl. Fel yr ydw i wedi dweud yn y Senedd o'r blaen, mae'n rhaid gwneud mwy nawr er mwyn sicrhau seibiannau i bobl.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch ailgodi'n gryfach, mae'n rhaid i Gymru weithio er mwyn sicrhau bod mynediad at seibiannau yn cael ei wella, a'r tro hwn, sicrhau ei fod yn cael ei neilltuo’n gyfan gwbl ar gyfer adferiad fel y gall ein gofalwyr ganolbwyntio ar eu llesiant a chynnal cysylltiadau cymdeithasol.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, gan dynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad a wnânt at gymunedau ledled y DU. Thema eleni yw Gwneud Gofalu'n Weladwy a Gwerthfawr.
  • Cynhaliodd Carers UK yr arolwg ar-lein rhwng 8 Ebrill a 25 Ebrill 2021. Ymatebodd cyfanswm o 2,850 o ofalwyr a chyn-ofalwyr i'r arolwg. Roedd hyn yn cynnwys 2,754 o ofalwyr cyfredol a 96 o gyn-ofalwyr. Roedd 14% o'r ymatebwyr yn byw yng Nghymru. 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree