Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Bwrdd Iechyd yn methu â blaenoriaethu rhai pobl sydd â’r angen clinigol mwyaf am driniaeth”

  • Tweet
Friday, 4 June, 2021
  • Local News

Yn dilyn datgeliad gan Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i Janet Finch-Saunders AS, na fydd llawdriniaethau arthroplasti dewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am dri i bedwar mis arall o leiaf, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy wedi ymateb yn chwyrn drwy feirniadu’r bwrdd iechyd am “fethu â blaenoriaethu rhai pobl sydd â’r angen clinigol mwyaf am driniaeth”.

Daw’r newyddion y bydd preswylwyr sydd angen llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn gorfod disgwyl o leiaf deuddeg wythnos arall er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi ei fod yn "Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio” ac y bydd “timau clinigol yn edrych ar y bobl sydd â’r angen clinigol mwyaf, ac yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol wrth i bob gwasanaeth ailddechrau”.

Mewn ymdrech i geisio sicrhau triniaeth i unigolion sydd angen llawdriniaeth i osod pen-glin neu glun newydd, mae’r Aelod wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

  • Yn dilyn y datgeliad na fydd llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am o leiaf tri i bedwar mis arall, a wnaiff y Gweinidog gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld a ellir lleihau’r oedi?

Gan wneud sylw ar yr oedi cyn y bydd llawdriniaethau i osod cluniau a phen-gliniau newydd yn ailddechrau, meddai Janet:

“Rydw i’n cydnabod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gorfod parhau i wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod digon o staff a chyfleusterau ar gael i ofalu am y cleifion mwyaf sâl, yn enwedig y rhai sydd angen gofal critigol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’r bwrdd iechyd yn methu â blaenoriaethu rhai pobl sydd â’r angen clinigol mwyaf am driniaeth.

“Fel llawer o’m hetholwyr, roeddwn i’n falch o ddarllen y cyhoeddiad diweddar fod gofal wedi’i gynllunio yn ailddechrau, ac y bydd timau clinigol yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol. Ymddengys nad yw hyn yn wir ar gyfer llawdriniaethau i osod cluniau a phengliniau newydd.

“Ni all fod yn iawn fod y Prif Weithredwr yn fy hysbysu y bydd hyd yn oed preswylwyr sy’n cael eu cydnabod fel blaenoriaeth glinigol yn gorfod disgwyl tri neu bedwar mis arall am lawdriniaeth arthroplasti ddewisol oherwydd nad yw’r gwasanaeth wedi’i drefnu i ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd yn y dyfodol agos.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar frys yr oedi pellach yn Ysbyty Gwynedd a chanfod ateb er mwyn sicrhau nad yw preswylwyr yn gorfod dioddef mwy o boen a gofid”.

DIWEDD

  • Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio
  • Mae Janet wedi cyflwyno’r Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru:
  • Yn dilyn y datgeliad na fydd llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am o leiaf tri i bedwar mis arall, a wnaiff y Gweinidog gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld a ellir lleihau’r oedi?

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree