Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Ewch am Brawf Ar Unwaith”

  • Tweet
Thursday, 3 June, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi ategu sylwadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n annog pobl sy’n byw yn ardaloedd Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn i fod yn ymwybodol o symptomau Coronafeirws a chael prawf cyn gynted â phosibl hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau.

Daw’r cyngor yn dilyn y newyddion bod 35 achos wedi’u cadarnhau neu dybiedig pellach o’r amrywiolyn sy’n destun pryder ac a nodwyd yn India yn wreiddiol (VOC-21APR-02) wedi’u canfod yn yr ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Meddai Janet am y sefyllfa yn lleol:

“Rwy’n annog cynifer o drigolion â phosibl i gael prawf ar unwaith.

“Er na fydd gennych unrhyw symptomau o bosibl, gallai’ch ymddygiad anhunanol helpu i nodi rhagor o achosion, gan alluogi swyddogion olrhain cyswllt i weithredu er mwyn rhoi stop ar ledaeniad yr amrywiolyn.

“Cofiwch hefyd ei bod yn bwysig diogelu ein hunain a phobl eraill trwy gadw pellter o ddau fetr o leiaf oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo yn rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fydd angen.

“Os nad ydych chi wedi cael brechlyn, dylech fynychu un o’r sesiynau yn Venue Cymru.

“Trwy gydweithio fel cymuned mae gennym le i obeithio bod modd cadw’r amrywiolyn sy’n peri pryder o dan reolaeth”.

DIWEDD

  • Trigolion heb symptomau: Mae profion LFD ar gael i’w casglu o’r Uned Brofi Symudol yn Ysgol Awel y Mynydd Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ. Canolfan galw i mewn/profi drwy ffenestr y car yw hon, ac nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae’r ganolfan ar agor rhwng 0800 a 2000 (mae ar gau rhwng 1300 a 1400).
  • Trigolion gyda symptomau: Ewch i Ganolfan Fusnes Conwy, Ffordd y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX ar gyfer prawf PCR. Canolfan galw i mewn/profi drwy ffenestr y car yw hon, ac nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae’r ganolfan ar agor rhwng 0800 a 2000 (mae ar gau rhwng 1300 a 1400).

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree