Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galwadau i wella cyfleoedd hyfforddi meddygon y Gogledd wedi i nifer y myfyrwyr ostwng

  • Tweet
Wednesday, 24 March, 2021
  • Local News

Heddiw (24 Mawrth) mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn y Gogledd, fel rhan o’i hymdrech i gael cyllid ar gyfer Ysgol Feddygol barhaol yng Ngogledd Cymru.  

Mewn Datganiad Ysgrifenedig yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Cymru bod cyfanswm o 18 o fyfyrwyr wedi ymuno yn 2020/21, gostyngiad o’r 19 o fyfyrwyr a gychwynnodd eu hastudiaethau ar y Rhaglen C21 ar gyfer 2019/20. Mae Mrs Finch-Saunders yn dadlau y byddai Ysgol Feddygol i Ogledd Cymru yn gam pwysig er mwyn mynd i'r afael a'r rhestrau aros i gleifion lleol. 

Meddai Janet ar ôl rhoi ei chwestiynau gerbron y Gweinidog:  

“Dylai cyflymu’r gwaith o ddatblygu ysgol feddygol I Ogledd Cymru, fod yn gam mawr yn y broses o fynd i’r afael ag argyfwng y rhestrau aros cynyddol ar hyd a lled y rhanbarth. Nid fi yw’r unig un sy’n credu hyn, gan fod Coleg Brenhinol Meddygon Cymru hyd yn oed yn cefnogi’r galw i ehangu’r ysgol feddygol ers amser maith.  

“Fel y dywedodd Coleg Brenhinol Meddygon Cymru wrthyf yr wythnos hon, mae yna fylchau sylweddol parhaus yn y rota ar gyfer hyfforddeion ym mhob un o’n hysbytai, a fydd hyn ddim yn gallu parhau gan ei fod yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd gofal cleifion. Dyna pam dylai’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr lleol beri cryn bryder i ni.  

“Mae myfyrwyr yn adrodd bod y cynllun yn brofiad addysgol gwych, felly byddai ymdrech ehangach i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen yn ei gwneud yn haws i recriwtio a byddai’n gam cyntaf hanfodol er mwyn ehangu’r ddarpariaeth feddygol yn y Gogledd. Gyda phob rhaglen o’r fath, mae angen datblygu enw da ac ymwybyddiaeth.”

DIWEDD 

Nodyn i Olygyddion:  

  • Mae rhaglen C21 y Gogledd wedi bod yn rhedeg ers dwy flynedd a chyfanswm nifer y myfyrwyr a gomisiynir yw ugain y flwyddyn. 
  • Ers mis Mai 2016, mae’r nifer llwybrau cleifion sy’n disgwyl 36 wythnos a mwy i ddechrau triniaeth wedi cynyddu o 4,078 i 50,143. 

Llun:  National Cancer Institute/UnSplash

 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree