Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cyflwyno llinell gymorth 111 y GIG ledled y Gogledd

  • Tweet
Wednesday, 24 March, 2021
  • Local News

Heddiw (24 Mawrth), mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu’r newyddion y bydd llinell gymorth 111 rhad ac am ddim y GIG yn cael ei gyflwyno o’r diwedd ledled y Gogledd ar ôl yr holl aros.

Yr hyn oedd yn peri pryder yw’r ffaith bod yna awgrym ddiwedd y llynedd y byddai'n rhaid i drigolion lleol ddisgwyl tan 2022 cyn cael mynediad i'r llinell gymorth. Cafodd y gwasanaeth nad yw’n un brys ac sy’n gweithredu 24 awr y dydd, ei dreialu am y tro cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn 2016. 

Mae gwasanaeth galw am ddim 111 yn cyfuno llinell gyngor Galw Iechyd Cymru ar gyfer galwadau iechyd nad ydynt yn rhai 999 gyda gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Dylid parhau i ddefnyddio cod deialu 999 mewn unrhyw achosion brys.

Dyma a oedd gan Janet i’w ddweud am yr amserlen newydd:

"Mae’r newyddion y bydd GIG 111 ar gael o’r diwedd i drigolion ar hyd a lled rhanbarth BIPBC o’r haf hwn yn cael croeso cynnes gen i. Bellach mae hwn yn wasanaeth ffôn hanfodol y mae llawer o fy etholwyr mwyaf agored i niwed yn awyddus iawn i’w ddefnyddio, yn enwedig ar ôl yr ymgyrchoedd hysbysebu cryf i’r gwasanaeth gydol y pandemig.

"Fel llawer o drigolion lleol, roeddwn i wedi fy nychryn y llynedd ar ôl clywed am yr oedi posibl, oherwydd dylid fod wedi sicrhau bod mynediad cyfartal i’r cymorth meddygol hwn yn flaenoriaeth. Yn wir, mae’r ffaith bod fy etholwyr i wedi gorfod talu am unrhyw alwadau i Galw Iechyd Cymru am gyfnod mor hir o gymharu â llefydd eraill, pan fo angen cyngor ar fater nad oedd yn un argyfwng, wedi peri cryn anesmwythwyd iddyn nhw.

"Mae’r buddsoddiad lleol i’r cynllun cymorth ffôn hwn yn cael ei groesawu hefyd, ac mae proses ar y gweill i recriwtio 90 a mwy o bobl i ymdrin â galwadau a 55 o glinigwyr, yn ogystal â nifer o staff cymorth ychwanegol. Byddaf yn parhau i bwyso am yr un buddsoddiad ar draws y Bwrdd Iechyd, yn ehangach, er mwyn sicrhau y gellir mynd i’r afael ag argyfwng rhestrau aros y rhanbarth hefyd."

DIWEDD

Llun: Miryan Leon/Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree