Yn dilyn Wythnos Cyfiawnder 2021, a gynhaliwyd rhwng 1 a 5 Mawrth, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi annog Llywodraeth Cymru i weld pa gamau y gellir eu cymryd i weld pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y Big Legal Lesson y flwyddyn nesaf.
Wrth sôn am symudiadau cadarnhaol i addysgu pobl ifanc, dywedodd Janet:
"Mae’r coronafeirws a chau ysgolion wedi effeithio'n drwm ar blant, a hynny heb ymgynghori o gwbl â'r rhan fwyaf o bobl ifanc ar y penderfyniadau. Yng nghyd-destun Covid-19, roedd Wythnos Cyfiawnder yn gyfle i gael archwiliad iechyd hanfodol ar ein hawliau, ar ein system gyfiawnder ac yn y pen draw ar reolaeth y gyfraith.
"Mae'r Big Legal Lesson yn adnodd ar gyfer yr ystafell ddosbarth sydd wedi ei gynllunio gan athrawon i gyflwyno rheolaeth y gyfraith i blant a phobl ifanc. Roedd yn hwb sylweddol i ymgysylltiad dinesig fod 732 o ysgolion wedi cymryd rhan eleni.
"Rwyf bellach wedi annog y Cwnsler Cyffredinol i gynnal adolygiad er mwyn gweld pa gamau y gellir eu cymryd i weld pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y fenter y flwyddyn nesaf. Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn fwy hyddysg yn y gyfraith yn siŵr o’u gwneud yn ddinasyddion crwn a chyfranogol."
Diwedd