Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Janet Finch-Saunders AS yn gofyn cwestiynau am bryderon ailgartrefu anifeiliaid anwes

  • Tweet
Wednesday, 17 March, 2021
  • Local News

Yn dilyn sgyrsiau gyda swyddogion y sector, mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Les Anifeiliaid a’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i amlinellu pa gymorth fydd yn cael ei roi i sefydliadau ailgartrefu anifeiliaid yn dilyn Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

Credir y gallai'r posibilrwydd o wneud canolfannau achub anifeiliaid yn ddarostyngedig i reolau gwerthu trydydd parti achosi pobl i gael gafael ar anifeiliaid anwes drwy ddulliau amgen, a thrwy hynny godi nifer y digwyddiadau cipio cŵn yng Nghymru. Cyflwynodd Janet y Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol ar y mater:

"A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth fydd ar gael i sefydliadau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallant barhau i ailgartrefu anifeiliaid a achubwyd o sefyllfaoedd o esgeulustod, os na chânt eu heithrio o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021?"

Wrth siarad am yr angen i ystyried y mater, dywedodd Janet:

"Fel y mae'r Rheoliadau ar hyn o bryd, byddai angen trwyddedu achubwyr anifeiliaid ac ni fyddai unrhyw elusen anifeiliaid yng Nghymru yn gallu ailgartrefu cathod bach na chŵn bach hyd nes eu bod yn chwe mis oed. Gallai hyn olygu bod llawer o anifeiliaid ifanc yn treulio misoedd yn cael eu lletya ac yn aros am y dyddiad y gellir eu hailgartrefu'n gyfreithiol.

"Mae ein llochesi achub anifeiliaid yn gwneud gwaith hanfodol, gan ddarparu cartrefi cariadus i anifeiliaid sy'n agored i niwed ac anifeiliaid ifanc. Mae’n bryder mawr imi y gallai'r rheoliadau hyn lesteirio eu gallu i ddarparu lloches angenrheidiol, ac y gallent waethygu’r broblem o gipio cŵn. Mae angen eglurder gan y Gweinidog ar frys.

"Mae beiddgarwch y troseddwyr cipio cŵn hyn yn anhygoel. Yn ôl adroddiadau, mae lladron wedi bod yn torri tenynnau cŵn gyda siswrn, ac eraill yn esgus eu bod yn weithwyr yr RSPCA. Rwy’n clywed gan etholwyr o bob rhan o Aberconwy eu bod yn dal i bryderu'n fawr am eu lles wrth fynd â'u hanifeiliaid anwes am dro.

"Un hwb i'r cynnydd hwn mewn achosion o gipio cŵn mae’n debyg yw bod y galw am gŵn bach yn fwy na’r cyflenwad. Ar ôl siarad â swyddogion y sector, ymddengys bellach fod yna berygl gwirioneddol, y gallai atal elusennau i ailgartrefu cŵn dan chwe mis oed, beri bod cynnydd yn yr achosion o gipio wrth i droseddwyr fynd ati i fanteisio ar y sefyllfa."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae Dogs Lost wedi nodi cynnydd o 170% yn nifer y cŵn a gafodd eu dwyn ar draws y DU ers dechrau'r pandemig.
  • Mae'r RSPCA, a sefydliadau eraill sy’n achub ac ailgartrefu anifeiliaid, yn achub cathod bach a chŵn bach ymhell o dan chwe mis oed fel mater o drefn. Er bod yr RSPCA yn ei gwneud yn glir na fyddent yn ailgartrefu unrhyw gathod bach na chŵn bach hyd nes eu bod yn wyth wythnos oed o leiaf, byddai'r Rheoliadau fel y'u lluniwyd yn atal y sefydliadau hyn rhag ailgartrefu unrhyw gath neu gi o dan chwe mis oed.

Llun: Lucrezia Carnelos/UnSplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree