Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cyflwyno brechlyn yn "arwydd clir bod Aberconwy am ddychwelyd yn gryfach”

  • Tweet
Wednesday, 10 March, 2021
  • Local News

Mewn newyddion cadarnhaol i'r gymuned leol, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion bod Cymru wedi mynd heibio'r garreg filltir o roi dos cyntaf y brechlyn i filiwn o bobl, gyda rhanbarth BIPBC wedi rhoi cyfanswm o 271,037 o ddosau erbyn 7 Mawrth 2021.  

Gyda'r ymdrech frechu yn mynd rhagddi yn llawn egni a bwrlwm, aeth Mrs Finch-Saunders ati unwaith eto ddoe i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu map ffordd ar gyfer dod allan o'r cyfyngiadau symud fel y gall busnesau lleol ddechrau'r paratoadau angenrheidiol.

Wrth ddathlu'r ymdrech frechu leol, dywedodd Janet: 

“Bydd y newyddion bod yr ymdrech frechu leol yn parhau i fwrw ymlaen yn newyddion y bydd trigolion ar hyd a lled Aberconwy yn ei groesawu, ac mae'r diolch am hynny i ymdrech arwrol ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol, y gwirfoddolwyr a'r lluoedd arfog. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, maen nhw'n glod i'w proffesiwn a diolchaf i bob un ohonyn nhw. 

“Mae'r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi'n glir fod y Bwrdd bellach wedi rhoi dos cyntaf o'r brechlyn COVID-19 i 84% o bobl 65-69 oed a bron i draean o bobl 16-65 oed sydd â chyflyrau iechyd isorweddol. Mae hyn yn newyddion gwych sy'n eithriadol o fuddiol yn ein hymdrech i gael map ffordd ar gyfer ailagor. 

“Yn hollbwysig, gyda'r rhaglen frechu ledled y DU yn parhau i fynd rhagddi'n llawn egni a bwrlwm, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y cyflenwad o frechlyn AstraZeneca, gan gyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn ar draws eu rhwydwaith o bartneriaid gofal sylfaenol. Mae hyn yn brawf pellach eto bod Cymru'n gryfach pan fyddwn ni'n gweithio ar y cyd â'n partneriaid yn y DU.  

“Mae'r broses hon o gyflwyno'r brechlyn yn arwydd clir bod Aberconwy yn daer dros gael dychwelyd yn gryfach."

Diwedd 

 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree