Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Busnesau Aberconwy yn amlinellu eu dymuniad am 'fap ffordd ar gyfer adferiad’

  • Tweet
Friday, 12 March, 2021
  • Local News

Cyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, unwaith eto wedi annog y Prif Weinidog i roi manylion y map ffordd ar gyfer adferiad, i gynnwys "amlinelliad o'r cyfleoedd i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.”  

Gan bwysleisio'n glir yr angen am fap ffordd, dywedodd Janet:  

“Mae fy etholwyr wedi datgan yn glir eu dymuniad am gynllun manwl ar gyfer teuluoedd, gweithwyr a busnesau ledled Cymru. Fel blaenoriaeth, dylai'r map ffordd hwn ar gyfer adferiad gynnwys amlinelliad o gyfleoedd hollbwysig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Y sectorau hyn yw calon ac enaid Gogledd Cymru. 

“Fel y nodwyd yn gwbl glir yn fy fforymau busnes rhithwir dros y ddeufis diwethaf, mae ein entrepreneuriaid am gael eu grymuso i fasnachu ac maent yn dymuno'n fawr y bydd Aberconwy yn dychwelyd yn gryfach. Mae angen arian ar ein busnesau i ailgychwyn yn hytrach nag ailddatblygu – gwahaniaeth hollbwysig. 

“Dyma pam y mae angen pecynnau cymorth arnom ar frys er mwyn ailgychwyn yr economi, fel Grant Ailgychwyn newydd i Gymru, wrth i'r bobl sy'n creu swyddi geisio pontio ymhellach drwy'r cyfnod hwn. Mae'n rhaid i'r gwaith hwn gychwyn nawr.” 

Diwedd 

Llun: Mike Petrucci ar Unsplash

 

 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree