Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Hyrwyddwr Pobl Hŷn yn ymgyrchu dros ddiogelu hawliau statudol

  • Tweet
Tuesday, 9 March, 2021
  • Local News

Unwaith eto, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, mewn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, wedi tanlinellu ei hymrwymiad i gynnig deddfwriaeth a fyddai'n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru.  

Wrth danlinellu'r angen am ddeddfwriaeth o'r fath, dywedodd Janet:  

“Yn ôl Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, dylai ein pobl fwyaf agored i niwed gael mynediad at ofal iechyd digonol, dylent allu byw mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, dylent elwa ar ofal a diogelwch cymunedol, a dylent gael eu trin yn deg.

“Mae profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig hwn wedi cryfhau'r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith a thros sicrhau bod yna well gwybodaeth am yr hawliau hyn a gwell cydnabyddiaeth ohonyn nhw. Mae Cymru ymhell o fod wedi cyflawni cynifer o'r egwyddorion hollbwysig hyn.

“O ystyried mai Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â'r ganran uchaf o bobl hŷn dros 65 oed, rydw i wedi bod yn gefnogwr brwd ers tro byd i Fil i ymgorffori hawliau pobl hŷn Cymru yn ein deddfwrfa. Gyda symudiad o'r fath yn cael cefnogaeth y Comisiynydd Pobl Hŷn, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru sylweddoli'r pethau cadarnhaol y gallai Bil o'r fath eu cyflwyno.” 

Diwedd 

Llun: Siarhei Plashchynski on Unsplash/Original by design.Learn

 

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree