Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cynnydd gyda'r pryderon am ddiogelwch ffyrdd yn Llanrwst

  • Tweet
Friday, 26 February, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn sylwadau a wnaed gan Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn trefnu i gynnal asesiad ar gyfer croesfan i gerddwyr yn Llwyn Brith yn y flwyddyn ariannol nesaf. Cadarnhawyd y newyddion cadarnhaol mewn llythyr diweddar gan Lee Waters, AS, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth.

Wrth drafod y cynnydd, dywedodd Janet:  

“Ar ôl gweithio ar y mater difrifol hwn yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd drwy gydol y tymor hwn o'r Senedd, rydw i'n falch iawn o fod wedi cael y wybodaeth gadarnhaol ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y mater. Roedd hyn yn hollbwysig gan fod y mater hwn yn parhau i beri cryn bryder i breswylwyr ar ddwy ochr yr A470, sy'n wynebu'r her o groesi'r briffordd hon yn ddiogel.  

“I drigolion Parc yr Eryr, Llwyn Brith a Maes Melwr sy'n defnyddio gwasanaethau bws, y plant lleol neu'r rhai sy'n agored i niwed sydd am gerdded i'r dref neu'r ysgol, mae'n rhaid iddyn nhw groesi'r A470 yn rheolaidd. Mae'n fater sy'n peri cryn bryder o ran diogelwch i bob defnyddiwr ffordd, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pan nad yw mor hawdd i yrwyr weld yn glir.

“Mae'r Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau y bydd asesiad yn cael ei gynnal yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn disodli'r groesfan sydd heb ei rheoli gan osod croesfan i gerddwyr yn lle hynny. Mae'n galonogol clywed y bydd astudiaethau achos lleol yn cael eu cynnwys yn yr asesiad hwn er mwyn pwysleisio'r angen amdano. 

“Wrth i'r ymgyrch hollbwysig hwn dros newid barhau, byddaf yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau â'r ymrwymiad hwn. Gan weithio mewn cydweithrediad â'r gymuned leol, rydw i wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion synhwyrol sydd o fudd i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr, gan ddiogelu ein plant a phobl sy'n agored i niwed.” 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae copi o ateb Llywodraeth Cymru ynghlwm. 

 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree