Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu i Dŵr Cymru i bwysleisio gwrthwynebiad trigolion lleol i'r penderfyniad i gau pont Dolgarrog yn barhaol. Mae Mrs Finch-Saunders wedi cynnig cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater, er mwyn canfod yr effaith y bydd cau'r bont yn ei chael ar deithiau twristiaid i'r ardal yn y dyfodol, mynediad i'r orsaf reilffordd, a theithio llesol.
Dyma a oedd gan Janet i'w ddweud am y sefyllfa sy'n wynebu'r trigolion:
“Y bont hon sy'n darparu'r unig fynediad i Orsaf Reilffordd Dolgarrog o bentref hardd Dolgarrog. Yn amlwg, does dim unrhyw lwybr arall i drigolion lleol o gwbl. Mae'r penderfyniad annerbyniol hwn gan Dŵr Cymru, i bob pwrpas, wedi torri cysylltiad cymuned gyfan â'u gorsaf reilffordd, sydd newydd gael ei hatgyweirio'n helaeth gan Network Rail.
“Drwy fynd ar drywydd cau'n barhaol, mae Dŵr Cymru yn tanseilio'r cais cynllunio diweddar ar gyfer datblygu gwesty newydd yn Surf Snowdonia, ymrwymiadau teithio llesol Llywodraeth Cymru, ac nid yw’n sylweddoli rôl hanfodol y rheilffyrdd wrth wynebu'r argyfwng hinsawdd byd-eang.
“O ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniad hwn, mae'n rhesymol rhagweld y bydd cynnydd yn y defnydd o gerbydau preifat a fydd yn cael mynediad i Orllewin Dyffryn Conwy, sy'n rhwystredig wrth ystyried y potensial gwych sydd gan Orsaf Reilffordd Dolgarrog.
Mae pont Dolgarrog yn cludo dau brif gyflenwad dŵr dros Afon Conwy. Ym 1982, cytunodd Dŵr Cymru â Chyngor Conwy y byddent yn caniatáu i'r bont gael ei defnyddio fel rhodfa gan y cyhoedd. Fodd bynnag, nid yw'n llwybr troed dynodedig nac yn hawl tramwy cyhoeddus.
Wrth wneud sylwadau pellach ar ei galwadau am weithredu, dywedodd Janet:
“O ran diogelwch y cyhoedd, rydw i'n deall bod Dŵr Cymru wedi cynnal nifer o arolygon ac asesiadau ar bob agwedd ar y bont. Yn fy ngohebiaeth â'r sefydliad, nodwyd yn glir bod y rhain yn cynnwys archwiliadau manwl o systemau cynnal y pileri, y rhodfa bren a’r pibellau.
“Rwyf bellach wedi gofyn i Dŵr Cymru am eglurder i’m swyddfa ynglŷn â'r argymhellion a wnaed gan y gweithwyr proffesiynol hyn sy'n gweithio yn y maes diogelwch cyhoeddus, yn ogystal ag eglurder am y gost o'u gweithredu, ac a fydd Dŵr Cymru yn rhoi'r golau gwyrdd i gynigion o'r fath. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ateb synhwyrol ar gyfer y ffordd ymlaen.
“Rwy'n awyddus iawn bod y broses o gydweithio'n weithredol â'r gymuned yn cael ei hadfer. Felly, rydw i wedi cynnig bod Dŵr Cymru yn ymrwymo ar frys i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi cyfle i etholwyr sydd â diddordeb leisio eu pryderon, a bydd yn rhoi amser er mwyn adolygu'r camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod mynediad i'r orsaf reilffordd yn cael ei adfer.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
- Amgaeaf gopi o lythyr yr Aelod at Dŵr Cymru.