Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

'Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi cyflwyniad mentrau gofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’

  • Tweet
Monday, 8 February, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu agoriad yr Uned Gofal Ôl-anesthesia (PACU) newydd yn Ysbyty Gwynedd, gan annog Llywodraeth Cymru i gefnogi mentrau tebyg ledled y Gogledd er mwyn helpu i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir a’r ôl-groniad anochel o gleifion.

Gwasanaeth dros nos yw PACU a gynhelir gan aelodau o dîm theatr yr ysbyty, wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion sydd angen gwell gofal ar ôl eu llawdriniaeth. Menter dan arweiniad theatr yw’r uned ac mae wedi derbyn adborth cadarnhaol gan gleifion ers agor tua diwedd mis Rhagfyr.

Wrth bwysleisio’r angen am gymorth Llywodraeth Cymru er mwyn gallu agor unedau tebyg ledled y rhanbarth, dywedodd Janet:

“Rwy’n croesawu’n fawr y fenter ragorol hon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ddylai helpu i ostwng nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu canslo pan nad oes unrhyw welyau arbenigol ar gael. Mae’r Uned yn ateb doeth ac effeithlon i helpu i fynd i’r afael â phwysau trwm misoedd prysur y gaeaf a COVID-19. 

“Bydd y PACU newydd yn sicrhau y bydd angen i lai o gleifion aildrefnu eu llawdriniaethau, gan eu galluogi i wella ar ôl eu llawdriniaeth ar y ward hon tan y bydd gwely priodol ar gael. Rwy’n llongyfarch tîm y theatr sydd wedi gweithio’n ddiflino i gael y fenter hon ar ei thraed.

“Nawr, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gefnogaeth angenrheidiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno datblygiadau newydd tebyg ledled cyfleusterau’r Bwrdd. Mae coronafeirws wedi gwaethygu’r broblem amser aros - rhywbeth sy’n gofyn am ymateb brys ac effeithiol.

“Yn sgil y pwysau amlwg ar ein gweithwyr gofal iechyd, mae rhai triniaethau wedi’u trefnu ar batrwm cyson, gyda Gweinidog Iechyd Cymru yn cyfaddef y gallai’r ôl-groniad gymryd tymor Seneddol llawn i’w ddatrys. Mae hwn yn argyfwng lleol, gyda dim ond 48.7% o gleifion yn aros llai na’r 26 wythnos i dderbyn triniaeth ym mis Tachwedd 2020.

“Gydag etholwyr yn cysylltu â mi am effaith ddilynol yr oedi hwn, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o greu wardiau dim Covid arbenigol er mwyn cynorthwyo i ailafael mewn gwasanaethau hanfodol yn lleol, fel triniaethau canser. 

“Mae’r ffigurau triniaeth canser yn bryder ers tro byd i lawer o breswylwyr lleol. Ledled Cymru, dim ond 4,913 o gleifion a ddechreuodd driniaeth ym mis Ebrill 2020. Ar hyn o bryd, mae 63.5% o 11,717 o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod ar y Llwybr Canser Unigol. Byddai wardiau dim Covid arbenigol yn helpu yma.

“Rwyf wedi ymrwymo o hyd i roi cynllun gwelliannau hirdymor ar waith, gan gynyddu capasiti mewn wardiau dim Covid er mwyn i ni gael gafael eto ar y sefyllfa llawdriniaethau. Trwy gefnogi agor mwy o unedau fel PACU, dylai hyn helpu i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir, heddiw ac i’r dyfodol, gan sicrhau nad yw cleifion yn gorfod aros mewn poen a phryder diangen.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae rhagor o wybodaeth am PACU Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gael yn:  https://bipbc.gig.cymru/newyddion/newyddion-or-bwrdd-iechyd/uned-arbenigol-newydd-i-gleifion-ar-ol-llawfeddygaeth-yn-agor-yn-ysbyty-gwynedd/  
  • Mae’r holl ffigurau y cyfeirir atynt gan StatsCymru.
  • Mae’r dyfyniad y cyfeirir ato gan Mr Vaughan Gething AS ar gael yng Nghofnod y Senedd, paragraff 239, 16 Medi 2020.

Ffoto: Sam Moqadam ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree