Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Addunedu i gefnogi ein busnesau lleol

  • Tweet
Wednesday, 23 December, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth i ni edrych ymlaen at 2021 rhaid i ni beidio ag anghofio am waith rhagorol ein busnesau a'u staff. Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, yn galw ar bawb i addunedu i gefnogi busnesau lleol yn 2021.

Dywedodd Janet:

“Busnesau bach lleol yw asgwrn cefn ein cymunedau, a dylem ei gwneud yn genhadaeth i gefnogi eu dyfodol.

“Mae Aberconwy wedi'i bendithio â chymysgedd gwych o fentrau, o ffermydd i gigyddion, gwinllan i stondinau llysiau, siopau crefft i gaffis, bwytai a thafarndai, llety ymwelwyr a llawer mwy.

“Gydol 2020, roeddem yn gallu dibynnu ar siopau a chynhyrchwyr lleol am eitemau hanfodol, bwyd a rhoddion.

“Yn wyneb y pandemig, mae busnesau bach wedi arallgyfeirio i fod yn llefydd diogel rhag Covid ac wedi ein galluogi i gael gafael ar y nwyddau rydym eu hangen ac yn eu mwynhau.

“Er fy mod i'n gobeithio y bydd yr argyfwng iechyd presennol yn gwella wrth gyflwyno'r brechlyn fesul tipyn, gadewch i ni gofio'r hyn a wnaeth busnesau lleol drosom a pharhau i'w hybu a'u hyrwyddo.

“Yn bersonol, drwy fy rôl fel y Gweinidog Cysgodol dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, byddaf yn ymroi i sicrhau fframwaith 'cynnyrch Cymru' ar gyfer amaethyddiaeth a fydd yn caniatáu i ffermio a chynhyrchu bwyd ffynnu mewn marchnad ôl Brexit.

“Ar ben hynny, rwy'n benderfynol o barhau i ddefnyddio'r liferi sydd gennyf i roi hwb i fusnesau fel nad oes unrhyw gostau diangen yn eu dal yn ôl unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu iddyn nhw fasnachu eto”.

FIN

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree