Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn sicrhau ymrwymiad cynllunio i wella diogelwch ffyrdd yng Nglan Conwy

  • Tweet
Wednesday, 2 December, 2020
  • Local News

Heddiw (02 Rhagfyr), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu diweddariad i’w hymgyrch hirhoedlog i wella diogelwch ffyrdd yng Nglan Conwy, gyda’r newyddion bod yr Asiant Cefnffyrdd wedi cael cyfarwyddiadau i ddatblygu cynllun sy’n addasu rhywfaint o’r baeau parcio cyfagos i wella gallu gyrwyr i weld ymlaen.

Ers ei gohebiaeth ddiwethaf gyda swyddogion am y pryderon, mae arwyddion ychwanegol dros dro wedi’u gosod wrth agosáu at y groesfan. Yn sgil deisebu parhaus yr Aelod i wella diogelwch ffyrdd yn yr ardal, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr yr Asiantaeth Cefnffyrdd wedi cyfarfod yn y groesfan i drafod opsiynau i wella’r cyfleuster.

Yn rhoi sylwadau ar y diweddariad, dywedodd Janet:

“Yn sgil pryderon a godwyd gennyf am ddiogelwch y groesfan sebra yng Nglan Conwy, roeddwn i’n falch iawn o gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth Cymru a arweiniodd ar gyflwyno arwyddion dros dro. Pan gyhoeddwyd y mesur dros dro hwn, gofynnais am asesiad gwelededd hanfodol hefyd i weld pa gamau pellach y gellid eu cymryd i sicrhau diogelwch ffyrdd yn yr hirdymor.

“Da yw clywed, yn sgil fy nghamau, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’r Asiant Cefnffyrdd ddatblygu cynllun sy’n addasu rhywfaint ar y baeau parcio cyfagos er mwyn gwella gallu pobl i weld ymlaen at y groesfan. Ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau, bydd swyddogion yn gallu ystyried manteision y gwelliant hwn a phennu a ddylid cyflwyno’r newid hwn.

“Mae diogelwch ffyrdd yn achos pryder i bob un ohonom sy’n byw yn lleol. Gyda hyn mewn golwg, ac yn debyg iawn i’r pryderon am groesfan Glan Conwy, byddaf hefyd yn cynnal ymweliad safle gyda swyddogion yr awdurdod lleol i Heol y Frenhines yng Nghraig-y-Don yn hwyrach yn y mis. Yn sgil ymgyrch lwyddiannus i gynyddu buddsoddiad yn y man chwarae lleol, mae’r broblem draffig barhaus yn risg go iawn i ddiogelwch plant ifanc lleol. 

“Rwyf wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiadau synhwyrol a fydd o fudd i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr. Mae’r llwyddiant diweddar hwn yn dangos grym ymgyrchoedd lleol, gan sicrhau bod lleisiau a phryderon preswylwyr yn cael eu clywed gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr amynedd a chefnogaeth preswylwyr Glan Conwy i’m ngwaith yn deisebu dros y gwelliannau ffyrdd lleol hanfodol hyn ac yn annog unrhyw un sy’n poeni am ddiogelwch ffyrdd i gysylltu â’m swyddfa ar unwaith.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Galw cyfarfod i drafod atebion i bryderon goryrru ar Heol y Frenhines. 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree