Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Diogelwch yr A470 – galw am archwiliad diogelwch

  • Tweet
Friday, 4 December, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (4 Rhagfyr), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried archwilio opsiynau i wella diogelwch ffyrdd ar hyd yr A470 rhwng Glan Conwy a Thal-y-Cafn, gan gynnwys gostwng terfynau cyflymder ac ailgynllunio o bosibl.

Dros y penwythnos, caewyd yr A470 i’r ddau gyfeiriad am rai oriau yn sgil damwain rhwng dau gerbyd ger Bodnant. Bu’n rhaid galw am ambiwlans, parafeddyg, ac Ambiwlans Awyr Cymru i’r ddamwain. Nid chredir bod yr anafiadau a gafwyd yn y ddamwain wedi bygwth bywyd.

Gan roi ei sylwadau ar y pryder o ran diogelwch y ffordd, dywedodd Janet:

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae pryderon mawr wedi’u mynegi ynghylch diogelwch yr A470 rhwng Glan Conwy a Thal-y-Cafn. Yn benodol, wrth deithio i’r de o Lan Conwy, mae sawl troad peryglus cyn cyrraedd copa allt Bodnant.

“Mae’n achos pryder bod y rhan hon o’r ffordd wedi dod yn beryglus iawn i breswylwyr lleol, gan fod y darn syth byr o’r ffordd yn cael ei defnyddio’n aml gan fodurwyr fel cyfle allweddol i oddiweddyd. Mae hyn yn digwydd er bod corneli cas bob pen i’r adran hon, a chyffordd ag Eglwysbach ger y copa.

“Tynnodd y ddamwain ar yr A470 dros y penwythnos sylw eto at y perygl sy’n wynebu defnyddwyr ar yr adran hon. Er fy mod yn deall nad yw’r anafiadau a gafwyd yn y ddamwain hon wedi rhoi bywyd unrhyw un yn y fantol, does dim amheuaeth o’r risg i unigolion sy’n gyrru ar hyn y rhan hon o’r A470.

“Dyna pam, mewn llythyr i’r Gweinidog Trafnidiaeth, fy mod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i drefnu i’r swyddogion ffordd perthnasol asesu diogelwch a dilysrwydd rhoi terfynau cyflymder is ar waith ar adrannau mwyaf trafferthus yr A470 rhwng Glan Conwy a Thal-y-Cafn.

“Rwyf hefyd wedi gofyn a allai eu swyddogion gynghori a oes unrhyw gynlluniau wedi’u hystyried i sythu’r gyfres ddrwg o droadau rhwng copa allt Bodnant a Glan Conwy.” 

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree