Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ceidwaid adar yn cael eu hannog i archwilio a chryfhau mesurau bioddiogelwch

  • Tweet
Tuesday, 10 November, 2020
  • Senedd News

Heddiw (10 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi siarad am ei phryder am y cynnydd mewn risg o  ffliw adar ymysg adar gwyllt, ac mae wedi erfyn ar geidwaid adar i gryfhau eu mesurau bioddiogelwch ar eu ffermydd.

Mae’r lefel risg i adar gwyllt wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ yn sgil dau achos digyswllt a gadarnhawyd  yn Lloegr yr wythnos hon, ynghyd â rhagor o adroddiadau o’r clefyd yn effeithio ar heidiau ar dir mawr Ewrop. Nawr, mae pedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU wedi erfyn ar geidwaid adar i atal cyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol ag adar gwyllt, gyda’r risg i heintio dofednod ym Mhrydain hefyd yn cael ei chodi o ‘isel’ i ‘ganolig’.

Gan dynnu sylw at y cyngor i geidwaid adar, dywedodd Janet: 

“Rwyf am ganmol gwaith ein Prif Swyddogion Milfeddygol, a’u cydweithwyr, sydd wedi gweithredu’n gyflym i atal lledaeniad y clefyd ar y ddau safle yn Lloegr. Maen nhw’n parhau i fonitro’r sefyllfa a bellach wedi annog pob ceidwad adar i gadw llygad barcud ar unrhyw arwydd o’r clefyd. Gofynnir i geidwaid adar roi gwybod am unrhyw achos dan amheuaeth ar unwaith.

“Mae’n bwysig nodi bod gan y Deyrnas Unedig fesurau monitro cadarn ar waith i helpu i atal clefydau adar rhag lledaenu, ac mae’n rhaid i mi bwysleisio bod y risg o drosglwyddo feirysau ffliw adar i’r cyhoedd yn y DU yn parhau yn isel iawn.

“Mae’r arbenigwyr milfeddygol hyn yn awyddus i bwysleisio, nawr yn fwy nag erioed, y dylai ein ceidwaid adar sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal a chryfhau bioddiogelwch da ar eu safleoedd er mwyn atal achosion pellach. Mae arferion da yn cynnwys cadw pob rhan yn daclus a glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau.

“Rwy’n erfyn ar geidwaid adar yng Nghymru i archwilio a chryfhau eu mesurau bioddiogelwch, gan ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan ein pedwar Prif Swyddog Milfeddygol. Trwy sicrhau bod ein hadar yn cael eu diogelu mewn amgylchedd diogel a glân, gallwn liniaru’r bygythiad a chynnal iechyd adar.”

DIWEDD

Nodiadau gan Olygyddion:  

Mae’r mesurau y dylai ceidwaid adar eu dilyn yn cynnwys:

  • Cadw’r ardal ble mae adar yn byw yn lân  a thaclus, gan reoli llygod mawr a bach a glanhau a diheintio unrhyw arwynebau caled
  • Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweliadau
  • Gosod bwyd adar a dŵr mewn mannau cwbl amgaeedig sydd wedi’u diogelu rhag adar gwyllt, a chael gwared ar unrhyw fwyd sy’n gollwng yn rheolaidd
  • Gosod ffens o gwmpas mannau awyr agored lle caniateir adar a chyfyngu ar eu mynediad at byllau neu ardaloedd y mae adar dŵr yn ymweld â nhw
  • Pan fo hynny’n bosibl, osgoi cadw hwyaid a gwyddau gyda rhywogaethau dofednod eraill.

Ffoto: Brianna Santellan ar Unsplash

You may also be interested in

J

MS Calls out Dwr Cymru on Higher cost Bills

Friday, 30 January, 2026
From April 2026 the average Dŵr Cymru Welsh Water household bill will increase by 4.8%, rising from £652 to £683 in 2026–27. The reason behind this has been to support a significant programme of investment.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree