Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio Wythnos Newid Hinsawdd Cymru i fyfyrio ar ei diffyg gweithredu

  • Tweet
Friday, 6 November, 2020
  • Senedd News

Heddiw (06 Tachwedd), ) mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi nodi diwedd Wythnos Newid Hinsawdd Cymru 2020 trwy erfyn ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar ei diffyg gweithredu ar y mater pwysig hwn.

Mae Gweinidog yr Wrthblaid wedi defnyddio’r wythnos i ofyn cwestiynau perthnasol am ynni dŵr, am botensial y sector batris ac effaith prosiect gwers biomas ar ansawdd aer. Cofnodir Cwestiynau Ysgrifenedig yr Aelod ar gofnod y trafodion Senedd Cymru.

Meddai Janet:

“Er fy mod yn croesawu menter Wythnos Newid Hinsawdd Cymru, mae’n ffaith drist a diymwad bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi methu rhoi ystyriaeth o ddifrif i newid hinsawdd, gyda chynllun annelwig heb ei gostio o fynd i’r afael â’r mater. Mae ymdrechion i gynhyrchu ynni glân adnewyddadwy wedi dod i stop a bydd hyn yn cael effaith ar ein hadferiad gwyrdd ar ôl y coronafeirws.

“Mae adroddiad diweddaraf Cynhyrchu Ynni yng Nghymru wedi datgelu sut mae’r cynnydd wedi dod i stop. Cafwyd gostyngiad mewn prosiectau ynni dŵr yn 2019 gyda symud araf i helpu gyda chynigion ar gyfer ynni gwynt ar y môr. Fe wnaeth PV solar Cymru hefyd gynnydd o lai nag 1% rhwng 2018 a 2019, gan fethu â manteisio ar yr awydd amlwg am y dechnoleg hon.

“Ni lwyddodd Llywodraeth Cymru chwaith i ddeall difrifoldeb llygredd aer ac ansawdd aer gwael yng Nghymru. Llygredd aer sydd i gyfrif am golli 13,000 o flynyddoedd byw yng Nghymru, gan gostio oddeutu £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae’n rhyfeddol bod Llafur Cymru wedi methu â chyflwyno Deddf Aer Glân, er ymrwymiad y Prif Weinidog.

“Gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Wythnos Newid Hinsawdd Cymru i fyfyrio ar ei diffyg gweithredu. Wedi’r cyfan,  bydd cynigion i efelychu’r cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd yng Nghymru a chynlluniau cymorth ar gyfer tyrbinau gwynt sy’n arnofio yn y Môr Celtaidd nid yn unig yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd yn gyfle i gynhyrchu miloedd o swyddi gwyrdd hirdymor ar yr un pryd.

“Mae hybu’r defnydd o ynni adnewyddadwy eang yn ffordd ragorol o helpu i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, bydd Llafur Cymru yn parhau i fethu Cymru os nad yw’n ymrwymo i wella capasiti’r grid.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • I weld copi o’r adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, cliciwch yma. 
  • I glywed mwy am Wythnos Newid Hinsawdd Janet, cliciwch yma.  
  • I weld Cwestiwn Ysgrifenedig Janet ar Ynni Gwynt, cliciwch yma. 

Ffoto: Micah Hallahan ar Unsplash

 

You may also be interested in

J

MS Calls out Dwr Cymru on Higher cost Bills

Friday, 30 January, 2026
From April 2026 the average Dŵr Cymru Welsh Water household bill will increase by 4.8%, rising from £652 to £683 in 2026–27. The reason behind this has been to support a significant programme of investment.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree