Heddiw (02 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod 0o’r Senedd dros Aberconwy - wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailagor y broses ymgeisio i’r Gronfa Cadernid Economaidd a sicrhau bod y cyllid yn ateb y galw, ar ôl oedi trydydd cam y cynllun ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Yn dilyn rhoi’r gorau i’r broses ymgeisio, ysgrifennodd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch y gwahanol gynlluniau cyllid, ar ôl i berchnogion busnes pryderus gysylltu â nhw. Mae angen eglurder ar unwaith ar y gefnogaeth sydd ar gael ar ôl i berchnogion busnes lleol gael cyfarwyddyd i gadw golwg ar wefan Cymorth Covid-19 i Fusnesau Busnes Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill er mwyn cael y diweddaraf.
Dywedodd Janet:
“Mae’n ofnadwy bod cronfa grantiau busnes Covid y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cau 24 awr ar ôl ei lansio, gyda sawl perchennog busnes lleol yn sôn am wallau yn y system a oedd yn golygu nad oedd modd iddyn nhw wneud cais. Mae’r holl broses hon wedi peri mwy o bryder, sy’n gwbl ddiangen ac yn rhywbeth y gellid fod wedi’i osgoi yn llwyr.
“Dyw hi ddim fel na allai Llywodraeth Cymru fod wedi rhagweld y galw mawr pan wnaethon nhw ein gorfodi i gyfnod atal byr Cymru gyfan, gan arwain at sawl busnes yn cau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ailagor y broses ymgeisio a sicrhau bod y cymorth cyllido yn ateb y galw os yw entrepreneuriaid ein cenedl yn mynd i oroesi’r cyfnod hwn.
“Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, roedd hi’n achos pryder mawr i mi yn ystod trydydd chwarter 2020, fod cyfradd siopau gwag Cymru wedi cynyddu i 18.0% o 15.9% yn yr ail chwarter. Tystiolaeth glir o effaith y pandemig Coronafeirws ar y sectorau manwerthu a busnesau bach.
“Bydd y raddfa siopau gwag hon yn cynyddu yn sgil proses grantiau drychinebus Llywodraeth Cymru. Mae busnesau a swyddi yn y fantol, felly rwy’n erfyn ar Ken i roi tân arni ac ailystyried cau’r cynllun grant hwn ar unwaith. Ni ddylai perchnogion busnesau Conwy orfod colli allan yn y fath fodd.”
DIWEDD