Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen gwell cymorth i ofalwyr di-dâl lleol cyn cyfnod atal byr Cymru

  • Tweet
Tuesday, 20 October, 2020
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei phryder am ofalwyr di-dâl a’u hiechyd meddwl, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfnod atal byr ledled Cymru o ddydd Gwener 23 Hydref.

Daw ei phryderon wrth i ni glywed bod 58% o ofalwyr di-dâl yn credu bod eu hiechyd corfforol wedi’i effeithio yn sgil gofalu drwy’r pandemig, tra bod 64% yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu. Cwblhaodd bron i 6,000 o ofalwyr holiadur ar-lein Carers UK. Dywedodd llawer o ymatebwyr fod canolfannau dydd a gostyngiadau mewn gwasanaethau eraill yn golygu bod y cymorth roeddynt yn arfer ei gael wedi’i leihau, gan adael llawer yn teimlo’n flinedig ac yn unig.

Nawr, mae Mrs Finch-Saunders wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i weld a ellir cynnig mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl lleol ledled y cyfnod clo, gan ofyn:

A fydd y Gweinidog yn ystyried caniatáu i unigolion sy’n ofalwyr/gofalwyr di-dâl ar gyfer yr unigolyn sy’n byw gyda nhw gyfarfod dan do gydag un aelwyd arall?

Wrth roi sylwadau ar ei phryder am les gofalwyr di-dâl lleol, dywedodd Janet:

“Amcangyfrifir bod 79% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu gofal i’w hanwyliaid, gyda llawer yn gwneud 11 awr ychwanegol o ofal di-dâl bob wythnos. Yn aml, mae llawer yn byw ar eu pen eu hunain gyda’r unigolyn sy’n derbyn eu gofal, gan ddibynnu ar gymorth canolfannau dydd neu anwyliaid i gael seibiant mawr ei angen.

“Gydol y pandemig, mae’r arwyr di-dâl hyn wedi parhau i weithio’n ddiflino i ofalu’n gariadus am eu hanwyliaid, heb y cymorth arferol gan deulu a ffrindiau, a gyda chymorth cyfyngedig gan wasanaethau lleol.

“Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfyngiadau cenedlaethol ddoe, mae llawer o etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi i ddeisebu Llywodraeth Cymru i ddiwygio eu rheoliadau er mwyn i ofalwyr di-dâl ein cenedl allu enwebu unigolyn a fyddai’n gallu ymweld â’u cartrefi i ddarparu cymorth meddyliol gydol y cyfnod anodd hwn. 

“Mae’n rhaid i ni beidio â gadael i’n gofalwyr di-dâl ysgwyddo’r baich yn ystod y clo hwn ar eu pen eu hunain. Dyna pam fy mod wedi cyflwyno’r Cwestiwn Ysgrifenedig hwn i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adolygu ei safbwynt ar y mater a chaniatáu’r rhwydwaith cymorth hanfodol hwn gydol y cyfnod atal byr.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree