Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Condemnio Drakeford am dwyllo Cymru gyda’r cyfnod atal byr

  • Tweet
Monday, 19 October, 2020
  • Senedd News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (19 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei siom gyda’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn briffio sefydliadau am gyfnod clo pythefnos o hyd a gadarnhawyd a fydd yn dechrau ar 23 Hydref.

Yn ôl dogfen a ddatgelwyd yn answyddogol, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ffurfiol yn nes ymlaen heddiw. Dros y penwythnos, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Llywydd yn galw am sesiwn frys o’r Senedd, gan rybuddio am oblygiadau difrifol y cyhoeddiad hwn a phwyso am “graffu cyhoeddus manwl ar y mater pwysig hwn”.

Wrth drafod yr honiadau dros y penwythnos, dywedodd Janet:

“Dyma enghraifft arall lle mae Llywodraeth Cymru wedi dewis osgoi Senedd Cymru, trwy friffio sefydliadau allanol dethol yn gyntaf. Mae’n dangos pa mor anhygoel o drahaus yw’r weinyddiaeth hon ac mae’n dangos amarch llwyr at y cyhoedd sy’n disgwyl i Senedd Cymru gyflawni ei swyddogaethau fel corff cadw cydbwysedd hanfodol.

“Mae goblygiadau’r cynnig hwn yn enfawr, a dyna pam mae angen trafodaeth lawn a thrylwyr yn siambr y Senedd. Mae’n rhaid ystyried yr effaith negyddol hirdymor ar iechyd meddwl ein trigolion mwyaf bregus, gan ddarparu’r mynediad angenrheidiol at rwydweithiau cymorth.

“Mae’n rhaid i’r cynigion hyn gan Lywodraeth Cymru ystyried pryderon eraill y Comisiynydd Pobl Hŷn, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau nad yw anghenion pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu. Yn wir, mae’n rhaid i awdurdodau sicrhau bod parch haeddiannol yn cael ei ddangos i fywydau preifat a theulu.

“Mae’r cyfyngiadau lleol yn Sir Conwy eisoes wedi achosi problemau sylweddol i ddilysrwydd sawl busnes, gan roi swyddi a bywoliaethau mewn perygl.  Mae’n rhaid i unrhyw gynnig am gyfnodau atal byr estynedig fynd law yn llaw â phecyn ariannol cyfatebol i gefnogi’r busnesau a’r sectorau hynny sy’n cael eu heffeithio’n niweidiol.

“Os yw’r cynnig hwn i gael ei fabwysiadu, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i gyhoeddi’r data sydd wrth wraidd ei reidrwydd, gan roi esboniad llawn a thrylwyr o sut bydd y cyfnod clo hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n rhaid iddynt hefyd roi digon o amser i wasanaethau cyhoeddus addasu a pharatoi.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

MS Calls out Dwr Cymru on Higher cost Bills

Friday, 30 January, 2026
From April 2026 the average Dŵr Cymru Welsh Water household bill will increase by 4.8%, rising from £652 to £683 in 2026–27. The reason behind this has been to support a significant programme of investment.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree