Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Cefnogi ymchwil i hylosgi amonia i sicrhau buddiannau swyddi gwyrdd hirdymor’

  • Tweet
Tuesday, 13 October, 2020
  • Senedd News

Heddiw (13 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth pellach i wyddonwyr mewn Prifysgol yng Nghymru sy’n datblygu ffordd newydd, lân o gynhyrchu ynni.

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i Weinidog yr Amgylchedd, dywedodd Janet:

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu ar waith Prifysgol Caerdydd a gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran hylosgi amonia?

Nid yw amonia yn cynhyrchu carbon deuocsid wrth ei losgi, gellir ei greu drwy ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a gellir ei storio’n hawdd fel hylif swmp. Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn cymryd camau mawr tuag at gynhyrchu trydan ar raddfa fawr o’r cyfansoddyn hwn. Mae tîm yr Ysgol Beirianneg wedi sicrhau bron i £3 miliwn mewn cyllid i’w galluogi i gyflymu’r dechnoleg arloesol y maen nhw eisoes wedi’i harddangos ar raddfa fechan.

Gan roi sylwadau ar ei chwestiwn i Lywodraeth Cymru, dywedodd Janet:

“Er ein bod ni i gyd yn adnabod y cyfansoddyn hwn fel gwrtaith mae’n siŵr, rydw i wedi fy nghyffroi’n llwyr o glywed bod amonia wedi dangos addewid mawr yn ddiweddar fel tanwydd a allai ffurfio’r sail ar gyfer datrysiad ynni adnewyddadwy newydd, wrth ei losgi mewn peiriant neu ei ddefnyddio mewn cell danwydd i gynhyrchu trydan.

“Yn ogystal â rhyddhau ynni o amonia mewn peiriant tyrbin nwy neu hylosgi mewnol, gall y cyfansoddyn hefyd gael ei ‘gracio’ yn ôl i nitrogen a hydrogen, gan ryddhau tanwydd sy’n cynhyrchu dŵr yn unig gan ei wneud yn atyniadol dros ben ar gyfer trafnidiaeth a phŵer cludadwy.

“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut gall roi gwell cefnogaeth i’r ymchwil arloesol hon ym Mhrifysgol Caerdydd, er mwyn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes hylosgi amonia.

“Mae mabwysiadu’r ffynhonnell ynni addawol hon yn gynnar yn golygu y gellid cynnal peth wmbreth o swyddi gwyrdd hirdymor mewn trafnidiaeth, cartrefi a chynhyrchu trydan o bosibl.  Yn wir, mae adferiad gwyrdd ein cenedl ar ôl Coronafeirws yn dibynnu ar fanteisio ar ddatblygiadau technolegol fel hyn.”

DIWEDD

Ffoto: Daniel Falcao/UnSplash

You may also be interested in

J

MS Calls out Dwr Cymru on Higher cost Bills

Friday, 30 January, 2026
From April 2026 the average Dŵr Cymru Welsh Water household bill will increase by 4.8%, rising from £652 to £683 in 2026–27. The reason behind this has been to support a significant programme of investment.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree