Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch a’r Eryr Aur: Cyffroi’r plu wrth gyflwyno’r Eryr Aur yn ôl i’r gwyllt

  • Tweet
Friday, 9 October, 2020
  • Local News

Heddiw (9 Hydref), siaradodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - am ei siom na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno moratoriwm ar unrhyw geisiadau am drwyddedau i ryddhau eryrod aur, hyd y gellir cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac i wybodaeth fanwl am gynlluniau o’r fath fod ar gael i’r cyhoedd.

Mewn ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Mrs Finch-Saunders, ysgrifennodd Gweinidog yr Amgylchedd Cymru:

“Er fy mod yn gwerthfawrogi y gallai’r cyfyngiadau Covid presennol gyfyngu ar ymgysylltu wyneb yn wyneb, bydd modd cynnal cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir o hyd. Felly, nid wyf yn credu bod angen moratoriwm ar hyn o bryd gan y gellir bodloni’r gofynion am ymgynghoriad cyhoeddus o hyd.

Nod Wilder Britain yw ailgyflwyno’r eryr aur i’r awyr uwchben Parc Cenedlaethol Eryri am y tro cyntaf mewn canrifoedd, ac y byddai hyn yn dechrau drwy ailgyflwyno 10 aderyn ifanc yn 2021. Mae cymunedau ledled y Gogledd wedi cwyno nad oes Astudiaeth Dichonoldeb Ecolegol ar gael i’r cyhoedd, gyda gofyn i breswylwyr restru eu barn ar ailgyflwyno’r eryr aur heb gael y ffeithiau’n llawn.

Gan roi sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:

“Fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, fel rhan o’r weithdrefn ar gyfer dosbarthu trwyddedau o’r fath ar gyfer rhyddhau’r adar ysglyfaethus hyn, byddai angen ymgynghoriad cyhoeddus llawn lle byddai’r holl wybodaeth ynghylch y cynnig ar gael. Mae’n peri pryder mawr nad yw hyn yn amlwg yn digwydd.

“Rydw i hefyd wedi digalonni o glywed bod digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus Wilder Britain yn Zip World Fforest ym Metws-y-coed wedi’i gynnal yn Saesneg yn unig. O ystyried natur ddwyieithog y gymuned hon, gyda’r Gymraeg yn famiaith i gynifer o breswylwyr yn y Parc Cenedlaethol, mae gen i bryderon mawr am y penderfyniad hwn.

“Gofynnir i breswylwyr a ffermwyr roi eu barn ar y mater heb gael yr holl ffeithiau sydd ar gael. Felly, rydw i wedi fy siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gweld yn briodol rhoi ystyriaeth ddilys i’m cynnig ar gyfer moratoriwm ar unrhyw drwydded arfaethedig.

“Mae angen ymestyn yr ymgynghoriad hwn ar unwaith, er mwyn gallu pwyso a mesur gwir effaith rhyddhau eryrod aur ar y bywyd gwyllt a’r poblogaethau da byw lleol.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cwestiwn Ysgrifenedig Janet: A wnaiff y Gweinidog gyflwyno moratoriwm ar unrhyw geisiadau am drwydded ryddhau ar gyfer eryr aur hyd nes y gellir cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a bod gwybodaeth fanwl am gynlluniau o'r fath ar gael i'r cyhoedd?  
  • Ymateb gan Lesley Griffiths AS: Mae gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) reolau llym ar reoli’r broses o ailgyflwyno unrhyw rywogaethau i’r gwyllt. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am weithredu’r rheolau hyn a dosbarthu trwyddedau ar gyfer rhyddhau o’r fath. Mae Canllawiau Trawsleoli IUCN yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynigion ddangos ymarferoldeb cymdeithasol unrhyw ailgyflwyno. Fel rhan o’r weithdrefn ar gyfer rhoi trwyddedau o’r fath, byddai angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn lle byddai’r holl wybodaeth am y cynnig ar gael. Byddai hyn yn galluogi i bob barn ar yr y cynnig gael ei hystyried. Cynghorir ymgeiswyr i gynnal yr ymgynghoriad cyn cyflwyno eu cais, a byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried a yw wedi’i gyflawni’n ddigonol fel rhan o’r broses pennu trwydded. Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu nad yw ymgeiswyr wedi ymgynghori’n ddigon eang yna gallant fynnu bod ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn cael ei gynnal cyn penderfynu. Er fy mod yn gwerthfawrogi y gallai’r cyfyngiadau Covid presennol gyfyngu ar ymgysylltu wyneb yn wyneb, bydd modd cynnal cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir o hyd. Felly, nid wyf yn credu bod angen moratoriwm ar hyn o bryd oherwydd gellir bodloni’r gofynion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o hyd.

Ffoto: v2osk/UnSplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree