Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn croesawu adfer arhosfan ar gais Gorsaf Dolgarrog

  • Tweet
Thursday, 8 October, 2020
  • Local News

Heddiw (08 Hydref), mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi sôn am ei llawenydd wrth glywed y newyddion y bydd Trafnidiaeth Cymru yn adfer Gorsaf Dolgarrog fel arhosfan ar gais o ddydd Sadwrn ymlaen. Mae'r orsaf yn arhosfan heb staff ar Reilffordd Dyffryn Conwy o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Janet:

“Rwy'n hynod falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwrando ar bryderon pobl leol ac y bydd yn adfer Gorsaf Dolgarrog fel arhosfan ar gais o ddydd Sadwrn ymlaen. Mae hyn yn dilyn cyflwyno trên dosbarth 150 i'w ddefnyddio ar y lein hon. 

“O ystyried y ffaith bod rheilffordd Dyffryn Conwy wedi cael ei hailagor yn ddiweddar, bydd y newyddion hyn yn siŵr o dawelu meddwl pobl leol sydd wedi cael eu gorfodi'n rhy aml i ddefnyddio trafnidiaeth amgen ers y cydnabuwyd na fyddai'r trên dosbarth 153 yn ffitio ger y platfform newydd.

“Mae'r rheilffordd hon yn cynnig gwasanaeth allweddol sy'n cysylltu rhai o gymunedau mwyaf gwledig Conwy, felly rwyf wedi galw'n gyson am fuddsoddiad pellach i sicrhau ei dyfodol tymor hir. 

“Rhaid i ni adeiladu ar y datblygiad cadarnhaol hwn ar gyfer gorsaf Dolgarrog, a cheisio manteisio i'r eithaf ar y potensial sydd gan yr arhosfan i weithredu fel canolbwynt allweddol i gymuned Dolgarrog a'i hatyniadau pwysig i dwristiaid."

DIWEDD

Ffotograff: Patrick Hendry/UnSplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree