Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen eglurder brys ynghylch y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol

  • Tweet
Thursday, 8 October, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (08 Hydref) mae Janet Finch-Saunders AS - yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu eglurder ar frys ynghylch ei Chronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol. Mae'r Gronfa’n addo £1,500 i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch cymwys yng Nghymru sy'n gweithredu mewn eiddo â gwerth trethadwy o rhwng £12,001 a £51,000, a £1,000 i fusnesau cymwys sydd â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai.

Fodd bynnag, mae'r manylion yn dal i fod yn brin, gyda dryswch ynghylch pryd y caiff yr arian hwn ei ddosbarthu. Yn ystod araith i'r Senedd ddoe, pwysodd Mrs Finch-Saunders am gymorth ariannol tecach i fusnesau'r rhanbarth sy'n dal i deimlo ergyd y cyfyngiadau a ddaeth i rym am 18:00 ddydd Iau 1 Hydref 2020.

Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet: 

“Fel y dywedais wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn y Senedd yr wythnos hon: mae angen cymorth ariannol tecach ar fusnesau Aberconwy fel mater o frys. Felly, mae'n siomedig nad yw manylion am ddosbarthu’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol wedi'u cyhoeddi hyd yma. 

“Yn hytrach na bod yn Ymateb Cyflym, rhaid ateb cwestiynau brys ynghylch pam nad yw'r cynllun hwn yn dosbarthu'r arian angenrheidiol yn barod, o ystyried bod y system Ardrethi Annomestig wedi'i defnyddio eisoes ar gyfer proses grant debyg yn gynharach eleni.

“Rhaid i Weinidog Cymru dros yr Economi adolygu'r penderfyniad i ddeddfu cap gwerth trethadwy o £51,000 hefyd. Wedi'r cyfan, mae gan Landudno amryw o westai a fydd yn cael eu heithrio o'r cymorth ariannol hanfodol hwn os na chaiff y cap ei ddileu.

“Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wthio ein hardal i’r argyfwng economaidd hwn yn sgil y cyfnod clo, felly mae angen iddynt fynd ati i gynnig y cymorth ariannol angenrheidiol a fyddai'n caniatáu i fusnesau lleol oroesi a phontio drwy'r cyfnod hwn."

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree