Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Aelod o Senedd dros Aberconwy yn galw am hwb cyllid i hosbisau lleol

  • Tweet
Monday, 24 August, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (24 Awst), galwodd Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - am ymrwymiad amlwg gan Lywodraeth Cymru y byddant yn adolygu’r ddau strwythur cyllid ar gyfer cyfleusterau gofal lliniarol i blant ac oedolion er mwyn diogelu eu ffyniant yn yr hirdymor.

Mae ffrydiau codi arian traddodiadol ar gyfer hosbisau ein cenedl wedi’u distrywio o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 presennol, er gwaethaf ymdrech arwrol codwyr arian hael ac arloesol.

Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa o ran cyllid, dywedodd Janet:

“Rydyn ni mor ffodus iawn o’r cyfleusterau gofal lliniarol eithriadol yn Aberconwy, gyda Thŷ Gobaith a Hosbis Dewi Sant wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth amhrisiadwy i unigolion gyda chyflyrau sy’n bygwth bywyd, ynghyd â’u ffrindiau a’u teulu.

“Heb ymdrechion y fyddin leol o bobl sy’n codi arian, ni fyddai’r elusennau hyn yn gallu dal ati i gefnogi cynifer o unigolion. Fodd bynnag, mae pryder mai dim ond rhan fach iawn o’r cymorth codi arian a dderbyniwyd yn y blynyddoedd diwethaf y bydd ein hosbisau yn ei weld yn sgil y pandemig COVID-19.

“Mae’n rhaid i’r baich fod ar Lywodraeth Cymru nawr i gynyddu’r cymorth cyllid er mwyn gallu parhau â’r gofal hwn yn y tymor hir. Mae’n rhaid gwneud gwelliannau ar unwaith i’r fformiwla cyllid hen ffasiwn er mwyn i’n hosbisau allu dal ati gyda’u gwaith hollbwysig heb bryderon ariannol yn gwmwl dros eu dyfodol.

“Mae’r cyfnod adfer presennol yn cynnig cyfle heb ei ail i ailadeiladu gwlad dosturiol. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau dewr a fydd yn annog, cefnogi a hwyluso camau gofalgar gan eraill.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree