Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Bydd mannau gwefru polyn lamp yn helpu i gyflawni targedau allyriadau carbon'

  • Tweet
Thursday, 6 August, 2020
  • Senedd News

Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi pwso heddiw (06 Awst) ar Lywodraeth Cymru i ystyried dull newydd o wefru cerbydau trydan, sy'n trosi pyst lamp yn bwyntiau gwefru, er mwyn helpu'r wlad i gyrraedd ei thargedau allyriadau carbon. 

Daw ei hymyrraeth wrth i Lywodraeth Cymru lansio eu Cynllun Aer Glân i Gymru. Ddoe, fe wnaeth Mrs Finch-Saunders bwyso ar Lywodraeth Cymru hefyd i ystyried cefnogi technolegau sy'n cysylltu cerbydau trydan â'r grid, er mwyn meithrin swyddi coler werdd hirdymor a helpu i leihau allyriadau.

Wrth wneud sylwadau ar ei chynigion, dywedodd Janet: 

“Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn syniadau beiddgar ac arloesol  busnes-yn-gyntaf er mwyn cefnogi ymdrechion ein cenedl i ffrwyno allyriadau carbon. Mae angen syniadau newydd radical er mwyn addasu bywyd trefol mewn ffordd sy'n sicrhau bod technoleg newydd yn agored i bawb. 

“Dyma pam rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gall gefnogi'r atebion peirianyddol diweddaraf i drosi pyst lamp sydd ar gael yn gyhoeddus yn fannau gwefru ceir trydan. Bydd hyn yn helpu i drosi lleoedd parcio ar ochr y ffordd yn fannau gwefru bob dydd.

“Gyda 990 o bwyntiau gwefru o gwmpas Cymru, a dim ond 60 ohonyn nhw'n gallu gwefru'n gyflym mewn llai nac awr, mae problemau mynediad yn ein rhwystro o hyd rhag newid i ddulliau teithio glanach. Cyn gwaharddiad y DU ar geir tanwydd ffosil yn 2035, dylid ystyried adolygiad o'r cynnig gwefru newydd hwn.

“Mae ansawdd aer gwael yn sgil allyriadau petrol a diesel yn parhau i fod yn berygl modern, gyda phum tref a dinas yng Nghymru yn nodi lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ymgyrch tuag at gerbydau trydan yn gam pwysig yn adferiad gwyrdd ein cenedl, gan gefnogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw bywydau iachach.”

DIWEDD

Llun: Chuttersnap/UnSplash

You may also be interested in

Challenging the Cabinet Minister on GCRE

Wednesday, 23 September, 2026
Challenging the Cabinet Minister on the Global Centre of Rail Excellence. 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree