Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen eglurder ar gyfer safleoedd gwersylla a theithiol y Gogledd

  • Tweet
Wednesday, 24 June, 2020
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders MS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi pwyso ar y Prif Weinidog heddiw (24 Mehefin) i roi mwy o gymorth i'r busnesau lletygarwch hynny nad ydynt yn gallu ailagor i gwsmeriaid ar 13 Gorffennaf.

Daw ei chais ar adeg bryderus i sector lletygarwch Cymru. Mae ffigurau diweddar a ryddhawyd gan Twristiaeth Gogledd Cymru wedi awgrymu y gall 10,500 o swyddi ar draws y rhanbarth ddiflannu o ganlyniad i'r cyfyngiadau a osodwyd yn ystod pandemig COVID-19.

Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad i'r cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:

“Er fy mod i'n croesawu'r ffaith bod Mark Drakeford wedi gwrando ar alwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ailagor economi ein gwlad, mae cryn ddryswch ymysg llawer o fusnesau lletygarwch lleol oherwydd natur annelwig a phrin argymhellion Llywodraeth Cymru.

“Mae angen mwy o arweiniad ar westai a llety hunangynhwysol ar sut y gallant ailagor yn ddiogel, er mwyn rhoi hyder i staff a chwsmeriaid. Mae parciau teithiol a safleoedd gwersylla sydd â chyfleusterau a rennir yn gofyn am fwy o eglurder hefyd ynghylch a allant ailagor yn hwyrach yn y tymor.

“Mae ein safleoedd teithio a gwersylla yn ganolog i economi'r Gogledd, gan ddarparu gwyliau rhesymol sy'n caniatáu i deuluoedd cyfan fwynhau ac ailgysylltu â’n rhanbarth ysblennydd. Ond maen nhw’n fregus hefyd ac yn dibynnu’n fawr ar dymor yr haf yn aml.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o eglurder i'r busnesau sy'n creu cyfleoedd gwaith hanfodol, ac amlinellu pa gymorth ariannol pellach y gallant ei gynnig i'n safleoedd teithiol a gwersylla pe baent yn cael eu hatal rhag ailagor yr haf hwn.”

DIWEDD

You may also be interested in

Janet

Objecting to the Closure of Ysgol Betws-Y-Coed Deadline is Tomorrow

Monday, 20 July, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Senedd for Bangor, Conwy and Môn, is calling on the Council Leader Councillor Julie Fallon, to step in to ensure that Ysgol Betws-y-Coed does not close, and on residents to object to the closure. The formal objection period against the closure of Ysgol Be

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree