Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Angen map ffordd clir a chynhwysfawr' i gywiro methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, medd AS

  • Tweet
Monday, 15 June, 2020
  • Local News
Portrait of Janet Finch-Saunders

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi mynegi siom am fethiannau rheoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae Bwrdd Iechyd y Gogledd dan fesurau arbennig ers mis Mehefin 2015, sy'n hwy nag unrhyw gorff GIG arall yng ngwledydd Prydain. Datgelodd ffigurau diweddar fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £83 miliwn ar gynllun ymyrraeth a chymorth gwella i'r Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, amlinellodd Mrs Finch-Saunders gynllun y Ceidwadwyr Cymreig i gywiro'r sefyllfa. Mae'r blaid wedi cynnig adolygiad cyflym ond trwyadl o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan addo cyhoeddi map ffordd clir a chynhwysfawr o fewn mis i ddod i rym.

Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Er gwaethaf gwaith caled gwych ein staff gofal iechyd rheng flaen lleol, mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw unwaith eto at fethiannau rheoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Heb newid, mae pobl y Gogledd yn parhau i fod ar eu colled o ran y ddarpariaeth gofal iechyd leol.

“Achosion heb eu cofnodi o COVID-19, 1,700 o gleifion iechyd meddwl wedi eu rhyddhau ar gam a nifer o achosion o gleifion oedrannus yn cael caniatâd i fynd i gartrefi gofal heb gael prawf coronafeirws priodol yn y lle cyntaf - mae methiannau dilynol y weinyddiaeth bresennol wedi peri risg real iawn i iechyd a lles trigolion lleol.

“Mae'n ffaith druenus fod diffyg gweledigaeth gan y weinyddiaeth hon yn parhau i danseilio cyfleoedd y Bwrdd i symud allan o fesurau arbennig.

“Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyhoeddi map ffordd clir a chynhwysfawr i achub Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o fewn mis ar ôl ennill etholiad i lywodraethu. Bydd hyn yn adfer hyder y cyhoedd yn y Bwrdd, ac yn rhoi'r pwyslais ar ein meddygon a'n nyrsys unwaith eto."

DIWEDD

You may also be interested in

J

Barclays Branch Reopens in Llandudno

Thursday, 8 January, 2026
The reopening of the Barclays branch on Mostyn Street in Llandudno has been welcomed as great news by many local residents. Following the previous closure of the branch, many residents were surprised and concerned, particularly those who relied on face-to-face banking services and found it diff

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree