Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Gall y Prif Weinidog "agor y farchnad dai yn fuan iawn”

  • Tweet
Thursday, 11 June, 2020
  • Local News
Portrait of Janet Finch-Saunders

Mae llythyr brys wedi cael ei anfon at Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, yn dweud y gall "agor y farchnad dai yn fuan iawn”.

Anfonwyd y llythyr gan Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, a heriodd y Prif Weinidog ynghylch y ffaith mai dim ond lle na ellir gohirio hynny y caniateir i breswylydd symud tŷ, a thynnodd sylw at y modd y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi gwybodaeth bwysig am iechyd y cyhoedd er mwyn sicrhau bod symud tŷ a gweithgareddau allweddol sy'n gysylltiedig â hyn, fel edrych ar dai, yn gallu digwydd yn ddiogel.

Mae ei llythyr yn cyd-fynd â galwad gan werthwyr tai a chyfreithwyr am ganiatáu i briswyr allu mynd i mewn i unrhyw eiddo nad oes neb yn byw ynddo fel y gellir cwblhau gwerthiannau, a'r ffaith bod yna rai yng Nghymru wedi penderfynu rhestru eiddo ar werth a threfnu ymweliadau er gwaethaf y rheolau ar gyfyngiadau symud.

Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Mae 14% yn llai o eiddo ar y farchnad yng Nghymru eleni o'i gymharu â 2019, ac mae trafodion eiddo'r DU wedi gostwng i'r lefel isaf erioed.

“Rydw i'n gwybod am werthwyr tai sydd â channoedd o bobl yn gofyn am gael gweld eiddo, a phreswylwyr yn disgwyl misoedd am gael prisio eiddo ar gyfer morgais.

“Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi cyfyngiadau er mwyn ail-ddechrau'r farchnad dai, a dylai ddilyn esiampl Llywodraeth y DU yn fuan iawn.

“Mae diffyg penderfyniadau ac amhendantrwydd Drakeford yn costio'n ddrud i'n heconomi, ac yn peri rhwystr annheg i bobl drwy eu hatal rhag gallu byw eu bywydau, ac yn cael effaith negyddol ar ddigartrefedd.

“Mae sôn am beidio â chydymffurfio â'r rheolau ar hyd ffin Cymru, felly rwy'n credu bod ewyllys a diffyg amynedd y bobl a'r sector yn glir”.

DIWEDD

You may also be interested in

J

Barclays Branch Reopens in Llandudno

Thursday, 8 January, 2026
The reopening of the Barclays branch on Mostyn Street in Llandudno has been welcomed as great news by many local residents. Following the previous closure of the branch, many residents were surprised and concerned, particularly those who relied on face-to-face banking services and found it diff

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree