Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn galw am addysg ar y Cod Cefn Gwlad

  • Tweet
Friday, 22 May, 2020
  • Local News
Portrait of Janet Finch-Saunders

Heddiw (22 Mai), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r ffordd orau o addysgu’r cyhoedd o’u cyfrifoldebau o dan y Cod Cefn Gwlad.

Daw ei galwadau ar ôl i ffermwyr lleol roi gwybod am nifer cynyddol o achosion lle mae aelodau’r cyhoedd wedi’u dal yn cerdded ar draws tir amaethyddol, gan adael giatiau tir fferm ar agor a gadael i’w cŵn redeg yn rhydd.

Yn ei datganiad, dywedodd Janet:

“Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, rydym yn diogelu iechyd a llesiant ein ffermwyr sy’n dal ati i weithio’n ddiflino i fwydo ein cenedl gydol pandemig COVID-19.

“Rydym ni wedi cael cyfres o reolau sydd wedi hen ennill ei phlwyf ar gyfer ymwelwyr â chefn gwlad ers bron i gan mlynedd. Er bod y rheolau hyn wedi esblygu gydol y cyfnod hwnnw, mae’n gwbl glir nad yw’r cyhoedd wedi bod yn ymwybodol ohonynt.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i sut gallwn addysgu’r cyhoedd yn well o’r Cod Cefn Gwlad. Boed drwy gyfrwng fideos byr neu gynnwys digidol cyfoethog, mae sawl sianel y gall Gweinidogion eu defnyddio i’n grymuso bob un i ddysgu sut y gallwn ymddwyn mewn ffordd mor ddiogel a chyfrifol â phosib yn rhanbarthau gwledig Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol ar y naw, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i gynnig ein cefnogaeth i’n harwyr amaethyddol. Mae hyn yn dechrau drwy barchu’r tir sy’n gartref ac yn weithle iddyn nhw.”

DIWEDD

You may also be interested in

Calling for Action on Endometriosis

Wednesday, 25 March, 2026
Calling for Action on Endometriosis

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree