Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

COVID-19: “Cymorth i leihau’r posibilrwydd y bydd Aberconwy yn dioddef argyfwng economaidd”

  • Tweet
Thursday, 7 May, 2020
  • Local News

Mae llythyr wedi’i anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn am i gamau gael eu cymryd i helpu i leihau’r posibilrwydd y bydd Aberconwy a Chonwy yn dioddef argyfwng economaidd yng ngoleuni COVID-19. Mae’r llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd, yn tynnu sylw at y canfyddiadau bod cymaint â 13,000 o swyddi mewn perygl yma, ac mai Llandudno yw un o’r cymunedau sydd wedi’i heffeithio waethaf yng Nghymru a Lloegr.

Mae wedi gofyn i Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, i wneud y canlynol:

  • cynnal cyfarfod rhithwir i drafod strategaeth i helpu Sir Conwy a Llandudno
  • datblygu mecanwaith cymorth masnachol effeithiol ar lefel leol i gynorthwyo busnesau i gynllunio eu strategaethau adfer
  • cyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted â bod hynny’n ymarferol yn y sectorau sydd wedi’u heffeithio waethaf i sicrhau nad oes gallu yn cael ei golli a bod cyfle i uwchsgilio’r gweithlu lleol mewn cyfnod o ddiffyg gweithgarwch gorfodol
  • darparu rhaglen o gymorth ariannol sy’n targedu’r sectorau sydd yn y perygl mwyaf , fel grantiau ardrethi busnes, diwygiadau i bolisi rhyddhad ardrethi, a chronfeydd trefi glan môr a marchnad

Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Llandudno a Dyffryn Conwy yw calon cynnig twristiaeth Cymru.

“Mae’r budd economaidd i’n sir oddeutu £900 miliwn diolch i gymaint â 9.5 m miliwn o ymwelwyr.

“Mae ymwelwyr wedi’u stopio yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Dyma’r peth iawn i’w wneud i helpu i ddiogelu ein hiechyd, ond ni allwn anghofio’r effaith ar y gymuned a’r economi.

“Mae 13,000 o swyddi mewn perygl yng Nghonwy, ac mae adroddiad newydd yn edrych ar effaith y pandemig yn ein trefi a’n dinasoedd yng Nghymru a Lloegr wedi canfod bod Llandudno wedi’i heffeithio’n benodol.

“Mae’r adroddiad yn glir y bydd angen ymyriadau ychwanegol i sicrhau nad yw’r sioc gychwynnol a achoswyd gan COVID-19 yn datblygu’n ddifrod parhaol, felly rwy’n brwydro dros ddyfodol ein hardal.

“Rydw i wedi cyhoeddi llythyr brys at Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn gofyn iddo weithio gyda mi i gymryd sawl cam i leihau’r posibilrwydd bod Aberconwy a Chonwy yn dioddef argyfwng economaidd.”

DIWEDD

Attachments

Attachment Size
Llythyr at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (268.53 KB) 268.53 KB

You may also be interested in

J

Labour’s Energy Promises Leave Questions Over How They Will Be Funded

Tuesday, 21 July, 2026
Janet Finch-Saunders MS has criticised Labour’s plans on energy costs after Andy Burnham pledged to reduce electricity bills by cutting VAT, saying the party has failed to explain how it would cover the cost of the tax cut. The Office for Budget Responsibility has warned that measures to reduce

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree