Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Angen gweithredu i daclo llifogydd Aberconwy

  • Tweet
Monday, 2 March, 2020
  • Local News
Flood Meeting

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, i drafod llifogydd Dyffryn Conwy, mae camau’n cael eu cymryd i geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Daeth 120 o drigolion y dref draw i’r cyfarfod ddydd Sadwrn diwethaf yng ngwesty’r Eryrod, Llanrwst.

Cafodd Aelod Cynulliad Aberconwy gwmni Robin Millar AS; Uwcharolygydd Jason Davonport, Heddlu’r Gogledd; y Cynghorydd Goronwy Edwards, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Lowri Joyce, Rheolwr Rhanddeiliaid a Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gogledd, Trafnidiaeth Cymru; Alvan Jones, Rheolwr Gweithrediadau Network Rail; Mr Kevin Williams, Rheolwr, Llew Jones; y Cynghorydd Owain Wyn, Cadeirydd, a’r Cynghorydd Wyn Jones, Is-gadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; sawl cynghorydd sir, a chynrychiolwyr Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru a Grŵp Cynefin.

Mae’r Aelod wrthi’n paratoi adroddiad sy’n manylu’r pryderon a godwyd a’r camau i’w cymryd.

Mewn ymateb i’r cyfarfod, meddai Janet:

“Hoffwn ddiolch i’r holl drigolion am roi o’u hamser i drafod y llifogydd a’r ffordd ymlaen.

“Maen nhw wedi bod drwy’r felin go iawn.

“Clywsom straeon am gartrefi yn dioddef llifogydd heb fawr o rybudd; eiddo mewn cyflwr bregus ac anaddas i fyw ynddynt; ffyrdd wedi’u difrodi; ceuffosydd wedi blocio; problemau difrifol o ran derbyn bagiau tywod am ddim, a’r angen am weithredu ar frys i ddiogelu cartrefi fel rhai ar ystadau’r Berllan a Perthi yn Llanrwst.

“Nid wyf wedi clywed am unrhyw un sydd wedi derbyn unrhyw gymorth ariannol brys hyd yma, ac rydw i wedi nodi bod y stormydd wedi cael effaith niweidiol ar fusnesau nid yn unig yn Llanrwst, ond ym Metws-y-coed a Chapel Curig hefyd.

“Rwyf wrthi’n crynhoi’r holl faterion a godwyd mewn adroddiad, fel bod pawb yn gwbl glir ynghylch y pryderon sydd wedi’u codi gyda mi a beth rydw i’n ei wneud i fynd i’r afael â nhw.

“Ar ben hyn, rwyf wrth fy modd fod Robin Millar AS yn gweithio i sicrhau cefnogaeth y Gwir Anrhydeddus George Eustice AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), i gynnal adolygiad annibynnol o fesurau lleddfu llifogydd yn Nyffryn Conwy – rhywbeth rydw i wedi bod yn galw amdano, ac sydd wedi’i rwystro gan Lywodraeth Cymru ers mis Mawrth diwethaf.

“Mae angen inni gyd gydweithio er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd difrifol yng nghartrefi a busnesau Dyffryn Conwy. Mae hyn yn cynnwys CNC, a wnaeth wrthod mynychu cyfarfod cyhoeddus eto fyth.”

You may also be interested in

Janet

“Reform/ Plaid Pact on First Vote in New Senedd is a Betrayal” Claims Lead Member

Friday, 15 May, 2026
Reform Senedd Members backed Welsh Labour’s nomination of Huw Irranca-Davies MS, the former Deputy First Minister, for Presiding Officer, while failing to put forward a single alternative candidate for Deputy Presiding Officer. Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Bangor, Co

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree