[PICTURE: SNOWDONIA NATIONAL PARK AUTHORITY/BBC]
Datganiad ar y cyd gan Darren Millar AC (Gorllewin Clwyd), Janet Finch-Saunders AC (Aberconwy), y Cynghorydd Sam Rowlands (Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) ar yr holl ymwelwyr wnaeth heidio i’r Gogledd dros y penwythnos.
"Y penwythnos hwn, cawsom ein boddi gan ymholiadau gan etholwyr am bandemig y coronafeirws.
“Mae’n hollbwysig bod pawb yn gwneud eu rhan i atal y feirws rhag lledaenu trwy ddilyn cynghorion llywodraethau Cymru a’r DU, ac aros gartref ac osgoi teithiau diangen – ond rydyn ni’n poeni’n fawr bod rhai’n anwybyddu’r cyngor hwn.
"Yn y dyddiau diwethaf, mae ymwelwyr wedi heidio yma i’r Gogledd. Mae’r fath gynnydd yn y boblogaeth leol yn rhoi gwasanaethau GIG a chadwyni cyflenwi lleol dan bwysau aruthrol ac yn peryglu bywydau twristiaid a thrigolion lleol fel ei gilydd.
"Tra’n bod yn cefnogi twristiaeth a’r diwydiant lletygarwch i’r carn, ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd yw atal y feirws rhag lledaenu, diogelu ein GIG a chadw pobl yn ddiogel. Dyna pam rydyn ni heddiw, ar y cyd, yn galw ar bobl i ddilyn cyngor arbenigwyr trwy ohirio eu gwyliau i ogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf.
“Rydym yn galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i gyhoeddi canllawiau clir i fusnesau ac atyniadau ymwelwyr trwy ofyn iddyn nhw gau eu drysau am y tro.
“Edrychwn ymlaen at groesawu pobl yn ôl i’n hardal yn y dyfodol ac, yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch ein hardal yn wyneb yr heriau sydd o’u blaenau.
DIWEDD