Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

COVID-19: Finch-Saunders yn gandryll gyda Llywodraeth Cymru am wneud tro pedol ar gymorth i fusnesau yn ystod

  • Tweet
Thursday, 26 March, 2020
  • Senedd News

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud tro pedol ar gymorth rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd wedi’u heffeithio’n wael gan COVID-19 wedi gwylltio Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach.

Ddoe (24/03/2020), cyhoeddodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, a Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn cynnwys y pwynt canlynol:

“O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud un addasiad i'r system Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf: i beidio ag ymestyn y rhyddhad o 100% i'r gyfran fach o eiddo sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu’n uwch.

Meddai Janet mewn ymateb i’r datganiad:

“Ar 19 Mawrth 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad clir na fyddai busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch Cymru yn talu ardrethi busnes am 12 mis.

  1. y tro pedol hwn i eithrio busnesau â gwerth ardrethol o £500,000 a mwy yn golygu y bydd tua 200 o eiddo yn gorfod talu ardrethi busnes er gwaetha’r tebygolrwydd y byddant yn gorfod cau yn sgil yr argyfwng cenedlaethol ar hyn o bryd.

“Rwy’n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi hepgor yr amddiffyniad ariannol hollbwysig hwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch mawr, wrth i’r sefyllfa economaidd barhau i waethygu yn sgil COVID-19. 

“Fel y gwn o gynorthwyo busnesau gydag apelau ynghylch gwerth ardrethadwy; nid yw gwerth ardrethadwy uchel ddim o reidrwydd yn golygu bod busnes yn gwneud elw sylweddol. Yn aml iawn, mae’r gyfradd uchel yn gwaethygu’r pwysau ar dreuliau misol.

  1. eto, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi busnesau dan anfantais o gymharu â Lloegr, lle mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i atal ardrethi busnes am 12 mis i bob busnes manwerthu, lletygarwch a hamdden yno.

“Gofynnaf i’r Gweinidogion cyfrifol adolygu’r penderfyniad hwn ac ystyried darparu rhyddhad ardrethi busnes i holl fusnesau Cymru yn ystod yr argyfwng hwn.”

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Datganiad Ysgrifenedig: ymateb i argyfwng economaidd COVID-19
  • Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau
  • COVID-19: support for businesses

You may also be interested in

J

10 Roads in Aberconwy Set to Return to 30mph

Wednesday, 11 March, 2026
In the outcome of Conwy County Borough Council’s review of default 20mph speed limits, ten roads in Aberconwy were recommended to be reverted back to 30mph from 20mph. This review has followed two other reviews, one from the Welsh Government on trunk roads and the other previously from Conwy Co

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree