Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Gweinidog yr Wrthblaid yn Parhau i Ymgyrchu i Greu Llysoedd Teulu (Cyffuriau ac Alcohol) yng Nghymru

  • Tweet
Wednesday, 4 December, 2019
  • Senedd News

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ystyried cyflwyno Llysoedd Teulu (Cyffuriau ac Alcohol) yng Nghymru er mwyn helpu i atal plant rhag gorfod mynd i ofal. Mae hyn wedi i Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog yr Wrthblaid ar Ofal Cymdeithasol a Phobl Ifanc, ddadlau o blaid y llysoedd yn y Senedd wrth graffu ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, a’r ddadl yr wythnos hon ar blant sy’n derbyn gofal.

 

Wrth ymateb i Weinidog yr Wrthblaid, dywedodd Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Llywodraeth Cymru’n ystyried ei chynnig ar gyfer sefydlu llysoedd yng Nghymru.

 

Ar ôl cael yr addewid gan y Dirprwy Gweinidog, meddai Janet:

 

“Ers 2003 rydyn ni wedi gweld cynnydd o 65 y cant yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ar hyd a lled Cymru, ac mae rhai awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd hyd yn oed yn fwy sylweddol fel 190% yn Ynys Môn, 195% yn Nhorfaen, 250% yn Sir Fynwy.

 

“Mae ymdrech yn cael ei gwneud i fynd ati mewn ffordd ddiogel i atal teuluoedd rhag cael eu gwahanu, ond gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy.

 

“Yn benodol, rydw i wedi llwyddo yn fy ymdrechion wrth ddadlau o blaid sefydlu Llysoedd Teulu (Cyffuriau ac Alcohol) (FDAC), sy’n defnyddio dull o ddatrys problemau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n rhan o achosion gofal”.

 

Ychwanegodd yr Aelod:

 

“Mae gwaith y llysoedd hyd yma yn gadarnhaol iawn.

 

“Daeth i’r amlwg mewn astudiaeth ddiweddar fod cyfran sylweddol uwch o deuluoedd yn y system FDAC o gymharu â theuluoedd eraill yn cael eu haduno neu’n parhau i fyw gyda’i gilydd ar ddiwedd yr achos.

 

“Mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi dadlau o blaid eu sefydlu.

 

“Ac mae’r dystiolaeth o werthusiad FDAC Llundain yn nodi, dros bum mlynedd, bod £2.30 wedi cael ei arbed am bob £1 sydd wedi cael ei gwario.

 

“Dylai Llywodraeth Cymru ddilyn y polisi rydw i’n ei hyrwyddo oherwydd dyma sydd er budd gorau plant, rhieni a’r pwrs cyhoeddus”.

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog y gyfraith): Plant mewn Gofal

 

Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant

 

Llysoedd Teulu (Cyffuriau ac Alcohol)

 

Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

You may also be interested in

J

10 Roads in Aberconwy Set to Return to 30mph

Wednesday, 11 March, 2026
In the outcome of Conwy County Borough Council’s review of default 20mph speed limits, ten roads in Aberconwy were recommended to be reverted back to 30mph from 20mph. This review has followed two other reviews, one from the Welsh Government on trunk roads and the other previously from Conwy Co

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree