Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Cytundeb £9 miliwn Llafur Cymru yn methu busnesau Cymru”

  • Tweet
Friday, 22 November, 2019
  • Senedd News
Janet

Mae ymrwymiad wedi’i sicrhau ar gyfer busnesau gan y Cadeirydd Trawsbleidiol ar Siopau Bach, Janet Finch-Saunders AC, y bydd y contract gan Lywodraeth Cymru sy’n ganolog i boen meddwl busnesau yng Nghymru, sef apeliadau ynghylch trethi busnes, yn destun craffu. Mae hyn ar ôl iddi astudio’r contract a’r feirniadaeth nad oes unrhyw gyfyngiadau amser ar yr apeliadau, sy’n golygu bod busnesau yn y tywyllwch am flynyddoedd.

 

Yn dilyn ei chwestiynau yn y Senedd, dywedodd Janet:

 

“Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi talu £9,111,080 am waith Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ardrethi annomestig a’r dreth gyngor ar gyfer 2019-20.

 

“Mae arian y trethdalwr yn cael ei ddefnyddio, ymhlith pethau eraill, i dalu am ddisgwyliad y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn clirio 3,000 o apeliadau, a darparu gwasanaeth cwsmeriaid amserol a phriodol.

 

“Fel y byddai busnesau ledled Cymru, gan gynnwys yma yn Aberconwy, yn cytuno, does dim gwasanaeth amserol yn cael ei ddarparu.

 

“Mae rhai o fy etholwyr wedi aros dros ddwy flynedd ers 2017 i’w hapeliadau ynghylch ardrethi annomestig gael eu prosesu’

 

“Mae hyn mewn cyfnod lle na all rhai etholwyr fforddio swm y trethi busnes y mae’r Swyddfa yn ei ddweud y maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw, ac maen nhw’n gorfod ceisio cadw’r ddysgl yn wastad.

 

“Mae cytundeb £9 miliwn Llafur Cymru yn methu busnesau Cymru ac yn niweidio’r stryd fawr, felly rwy’n falch o fod wedi sicrhau ymrwymiad y bydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am gyngor cyfreithiol yn edrych ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth dan sylw.

 

“Mae gennym amser i amrywio’r Cytundeb presennol, ac o leiaf paratoi’n bositif ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â chyfrifoldebau ei ‘swyddog y gyfraith’): Asiantaeth y Swyddfa Brisio

You may also be interested in

J

10 Roads in Aberconwy Set to Return to 30mph

Wednesday, 11 March, 2026
In the outcome of Conwy County Borough Council’s review of default 20mph speed limits, ten roads in Aberconwy were recommended to be reverted back to 30mph from 20mph. This review has followed two other reviews, one from the Welsh Government on trunk roads and the other previously from Conwy Co

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree