Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Nifer yr Achosion o Hunanladdiad ymysg Dynion yn parhau’n uwch yng Nghymru na Lloegr

  • Tweet
Monday, 11 September, 2017
  • Senedd News

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi galw am gynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl. Daw hyn wrth i ffigurau ddatgelu mai cyfraddau hunanladdiad Cymru yw’r ail uchaf o blith holl ranbarthau Prydain, ac mae’r cyfraddau ymysg dynion yn sylweddol uwch na’r cyfraddau ymysg menywod.

 

Meddai Janet Finch-Saunders yr Aelod Cynulliad Lleol:

 

“Mae’r ffigurau hyn yn creu darlun llwm iawn i gymaint o bobl sydd mewn anobaith llwyr, eu teuluoedd a’u hanwyliaid. Mae pob marwolaeth drasig yn stori dorcalonnus, a chydymdeimlaf yn fawr â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad mewn unrhyw ffordd.

 

“Ni ddylai unrhyw un sy’n cael meddyliau hunanddinistriol deimlo ei fod ar ei ben ei hun neu heb unrhyw gymorth, ac rydw i’n pwyso ar unrhyw un sy’n teimlo fel hyn, neu sy’n adnabod rhywun a allai fod angen cymorth, i droi at y cymorth hwnnw – cysylltwch â’ch meddyg teulu neu gallwch ofyn i ffrind.

 

“Gall siarad yn agored fod yn andros o anodd, ond mae cymorth ar gael, ac mae’n rhaid i ni weithio er mwyn hyrwyddo hyn a gwneud yn siŵr bod y neges hon yn cyrraedd pawb sydd ei hangen.

 

“Mae yna sefydliadau gwych yn Aberconwy sy’n cynnig gwasanaethau cymorth, gwrando, eirioli a chyngor.


Er mwyn cysylltu â’r Samariaid, ffoniwch 08457 90 90 90, e-bostiwch [email protected] neu gallwch ddod o hyd i fanylion eich cangen leol yn www.samaritans.org.

 

Nodiadau:

 

Mae’r set data lawn, gan gynnwys y dadansoddiad yn ôl gwlad, oedran a rhyw, ar gael yma: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarr…  

 

Yn benodol:

  • Yn gyffredinol, mae cyfradd hunanladdiad ymysg dynion, oedran benodol, tua theirgwaith yn uwch na’r gyfradd ymysg menywod.
  • Mae’r gwahaniaeth mwyaf rhwng dynion (14.9*) a menywod (3.3) rhwng 80 ac 84 oed, lle mae dynion yn y grŵp oedran hwn bedair a hanner gwaith yn fwy tebygol o farw o hunanladdiad.
  • Mae dynion rhwng 15 a 19 oed (7.1) ddwy a hanner gwaith yn unig yn fwy tebygol o farw o hunanladdiad na menywod (2.9).

Mae cyfradd hunanladdiad dynion canol oed, yn benodol y rhai rhwng 40 a 44 oed (23.7), a 90 a hŷn (22.6), yn arbennig o uchel.

 

 

Photo credit: mattwalker69, Flickr

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree